Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau ar-lein

Yn ystod 2020 a 2021, dechreuom ddatblygu banc o adnoddau addysgu ar-lein, ac yn seiliedig ar ei lwyddiant, rydym yn bwriadu adeiladu ar hyn yn y blynyddoedd nesaf.

Gellir ymgymryd â'r gweithgareddau ar-lein hyn, a luniwyd gan y tiwtoriaid yn Sefydliad Confucius Caerdydd, mewn ystafell ddosbarth, ystafell ddosbarth rithwir, gartref gyda'r teulu neu fel dysgu annibynnol.

Mae rhai o’r uchafbwyntiau’n cynnwys:

Sesiwn blasu Tsieinëeg

Chinese Language Taster session

Cyflwyniad i lythrennau Tsieinëeg

Chinese Characters

Creu llusernau

Lantern making

Gŵyl Cychod y Ddraig

Dragon Boat Festival

Mae pecynnau adnoddau llawn, ar thema gwyliau diwylliannol, hefyd ar gael ar dudalennau’r Brifysgol ar gyfer adnoddau a gweithgareddau addysgol i athrawon, ysgolion a cholegau:

Yn ogystal â’r adnoddau hyn sydd ar gael i’r cyhoedd, mae hefyd gennym fanc o wersi wedi’u recordio ymlaen llaw a’u curadu’n ofalus i gefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd. Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth neu i gael mynediad at yr adnoddau hyn.

Sefydliad Confucius Caerdydd

Ymholiadau cyffredinol