Cyrsiau Tsieinëeg
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Tsieinëeg sy’n addas i ddechreuwyr yr holl ffordd at ddysgwyr uwch.
Gallwch gael mynediad at ein cyrsiau presennol fel dysgwr sy’n oedolyn, fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, neu fel ysgol leol yng Nghymru, neu gallwch gysylltu â ni i drafod eich gofynion dysgu penodol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau Tsieinëeg Mandarin wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer y cyhoedd ac sy'n cael eu cynnal gyda'r nos. Mae hyd at bedwar cyfnod derbyn y flwyddyn, yn dibynnu ar lefel eich cwrs, gan ddechrau ym mis Hydref, Ionawr, Ebrill a Mehefin. Darperir y cyrsiau drwy ddosbarthiadau dwy awr wythnosol, fel arfer dros gyfnod o 12 wythnos.
Mae ein cyrsiau Tsieinëeg i ddysgwyr sy'n oedolion ar gael drwy'r adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol.
Gall pob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd astudio Tsieinëeg yn rhad ac am ddim. Mae ein cyrsiau Tsieinëeg ar gael trwy'r rhaglen Ieithoedd i Bawb.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau mewn ysgolion, gyda'r nod o gyflwyno Tsieinëeg ar lefel dechreuwyr. Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi ac addysgu iaith i athrawon sy’n dymuno cyflwyno Mandarin yn eu hysgol. Cysylltwch â’n Rheolwr Prosiect Ysgolion i gael gwybodaeth am gyrsiau Tsieinëeg ar gyfer ysgolion.
Ar gyfer dysgwyr unigol, mae gennym gysylltiadau hefyd â’r ysgolion Tsieinëeg niferus yng Nghaerdydd. Mae dolenni at eu gwefannau yma:
Ar gais, mae modd i ni gynnig gweithdai a chyrsiau pwrpasol ar y meysydd canlynol:
- Tsieinëeg
- Diwylliant Tsieina
- Moesau busnes Tsieineaidd
- System addysg Tsieina
- Cefnogi disgyblion o Tsieina yn eich sefydliad
- Briff cyn ymadael – delfrydol er mwyn gwneud y mwyaf o deithiau i Tsieina, boed yn daith hamdden, astudio neu fusnes
- Cyrsiau eraill mewn ymateb i ofynion cleientiaid
Tystebau
Drwy ein holl weithgareddau, ein nod yw rhoi’r profiad gorau posib i’n myfyrwyr drwy sicrhau bod dysgu Tsieinëeg yn hwyl, yn gofiadwy, ac yn bwysicaf oll, yn ddefnyddiol. Yma mae rhai o’r sylwadau a’r adborth rydyn ni wedi’u cael gan ein myfyrwyr.

"The enthusiasm and understanding of the Institute's teachers have allowed me reach a standard where I now feel confident using Mandarin in business settings. I am very excited about what the future holds."

“We learnt about useful everyday topics which would come in handy when visiting China in the future, or for just conversing with Chinese people in the UK. I found the grammar really interesting and I enjoyed participating in the role plays.”

“When I came to Cardiff, I took up some Languages for All classes and also made some Chinese friends. This was a great way to learn Chinese because I could spend time with them eating Chinese food, speaking Mandarin, and also trying to understand the messages they sent me!”

"The tutor was very good at directing her time towards the students who needed extra tuition, so that everyone on the course was at the same broad level of proficiency."
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth ar gyrsiau pwrpasol neu am y posibilrwydd o deilwra cwrs i gwrdd â'ch anghenion.
Sefydliad Confucius Caerdydd
Ymholiadau cyffredinol
Chwiliwch ein holl gyrsiau byr Tseiniaidd rhan-amser ar gyfer oedolion.