Ewch i’r prif gynnwys

Astudio Tsieinëeg

Os ydych yn cynllunio taith i Tsieina neu wedi'ch cyfareddu gan ddiwylliant cymhleth Tsieina rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i ddiwallu eich anghenion.

Os nad ydych yn siŵr pa gwrs fyddai’r un mwyaf addas ar eich cyfer, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i drafod eich anghenion.

Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn ganolfan brawf gymeradwy ar gyfer Hanyu Shuiping Kaoshi (HSK), a adwaenir hefyd fel y Prawf Hyfedredd Tsieinëeg. Rydym hefyd yn cynnig y Prawf Tsieinëeg i Ieuenctid (YCT).

Trefnir profion drwy gydol y flwyddyn mewn cydweithrediad â’r Ysgol Ieithoedd Modern. Ewch i’n tudalennau cymwysterau ieithoedd rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau’r profion a sut i wneud cais, neu ewch i’r wefan profion Tsieinëeg i gael gwybodaeth am strwythur y prawf a mynediad at gyn-bapurau.