Datblygiad proffesiynol i athrawon
Er mwyn cefnogi darpariaeth hirdymor addysgu Mandarin yng Nghymru, rydym yn buddsoddi mewn cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus i athrawon lleol.
Bob blwyddyn, rydym yn trefnu tri derbyniad i’n cyrsiau chwe wythnos Mandarin i Athrawon, a gaiff eu cynnal ar ôl oriau ysgol ac sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer gweithwyr addysgu proffesiynol prysur i roi cyflwyniad sylfaenol i Mandarin. Ar ôl eu cwblhau, mae modd i athrawon symud ymlaen at un o’n cyrsiau sefydledig rhan-amser i oedolion mewn Tsieinëeg, wedi’u hariannu’n llawn, lle gallan nhw weithio tuag at fodiwl 10 credyd lefel 3 neu 4 mewn Tsieinëeg.
Yn ogystal ag addysgu iaith, rydym hefyd yn cefnogi cymuned fywiog o athrawon Mandarin ledled Cymru drwy ein cylchlythyron chwarterol a’n Fforymau rheolaidd. Mae’r ddau’n cynnig cyfle i rannu arferion gorau a chyfnewid syniadau ar addysgu Mandarin gydag athrawon eraill ledled Cymru.
Cyrsiau i athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd (Ebrill i Orffennaf 2024)
Trosolwg
Cyflwyniad i Fandarin i athrawon ysgolion cynradd
- Dydd Iau yn wythnosol
- 16:00 tan 17:00
- Ar-lein (Zoom)
- Rhan 1: 11 Ebrill to 23 Mai
- Rhan 2: 6 Mehefin to 18 Gorffennaf (14 wythnos)
Cyflwyniad i Fandarin i athrawon ysgolion uwchradd
- Dydd Iau yn wythnosol
- 17:30 tan 18:30
- Ar-lein (Zoom)
- Rhan 1: 11 Ebrill to 23 Mai
- Rhan 2: 6 Mehefin to 18 Gorffennaf (14 wythnos)
Cyflwyniad i Tsieina a Diwylliant Tsieineaidd ar gyfer athrawon ysgolion cynradd
- Dydd Mawrth yn fisol
- 16:00 tan 17:00
- Ar-lein (Zoom)
- 12 Mawrth, 16 Ebrill, 14 Mai, 4 Mehefin, 2 Gorffennaf (5 sesiwn)
Cyflwyniad i Tsieina a Diwylliant Tsieineaidd ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd
- Dydd Mawrth yn fisol
- 17:30 tan 18:30
- Ar-lein (Zoom)
- 12 Mawrth, 16 Ebrill, 14 Mai, 4 Mehefin, 2 Gorffennaf (5 sesiwn)
Cyflwyniad i Fandarin i athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd
Mae'r cyrsiau rhad ac am ddim hyn ar gyfer athrawon sy'n dymuno dysgu rhywfaint o Tsieinëeg Mandarin sylfaenol. Efallai y byddwch chi’n dewis un o’r opsiynau hyn er mwyn cefnogi’ch disgyblion gyda dysgu presennol neu yn y dyfodol, neu’n syml i ddarganfod yr iaith drosoch eich hun. Mae'r cyrsiau hefyd yn gyfle i archwilio rhai o'r adnoddau a ddefnyddir gan diwtoriaid Sefydliad Confucius mewn dosbarthiadau ysgolion cynradd/uwchradd, gan roi dealltwriaeth sylfaenol i chi o'r hyn sy'n cael ei ddysgu i'ch myfyrwyr.
Cynnydd
Ar ôl cwblhau'r cwrs Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus,, cewch gyfle i ymuno â chwrs rhan-amser Tsieinëeg i Ddechreuwyr II Prifysgol Caerdydd i oedolion o fis Medi 2024. Bydd hyn yn cael ei ariannu'n llawn gan Sefydliad Confucius Caerdydd.
Gofynion mynediad/cofrestru
Os nad ydych chi wedi cwblhau'r sesiwn Blasu ar gyfer y cwrs hwn, fe anfonwn ni bedwar sesiwn wedi'u recordio atoch chi a bydd angen i chi eu gwylio er mwyn cael lle.
Cofrestrwch (Saesneg yn unig) ar gyfer Cyflwyniad i Fandarin i athrawon ysgolion cynradd neu Cyflwyniad i Fandarin i athrawon ysgolion uwchradd.
Cyflwyniad i Tsieina a Diwylliant Tsieineaidd ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd
Mae ein sesiynau misol Cyflwyniad i Tsieina a Diwylliant Tsieina sy’n rhad ac am ddim yn caniatáu ichi ddysgu mwy am wlad a diwylliannau Tsieina.
Nod y cyrsiau hyn yw eich cyflwyno i bum maes allweddol o ddiwylliant Tsieineaidd a rhoi o leiaf un wers lawn i chi i'w defnyddio gyda disgyblion. Ar ôl pob sesiwn, cewch fynediad i sleidiau powerpoint ac adnoddau/gweithgareddau a baratowyd gan diwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd.
Y pynciau a gwmpesir yn y cwrs hwn yw:
- Gwyliau Tsieineaidd I
- Gŵyl Cychod Draig
- Gŵyl Qingming
- Celf a chrefft Tsieineaidd
- Iechyd a lles Tsieineaidd
- Bwyd Tsieineaidd
- Gwyliau Tsieineaidd II
- Gŵyl Canol yr Hydref
- Blwyddyn Newydd Tsieineaidd
Sylwer bod y sesiynau hyn wedi'u cynllunio fel cyflwyniad i Tsieina yn hytrach na chael ffocws ieithyddol. Mae hyn yn caniatáu i athrawon ddefnyddio'r cyflwyniadau a'r adnoddau yn annibynnol gyda'ch disgyblion, heb gymorth tiwtor Tsieinëeg.
Gofynion mynediad/cofrestru
Cofrestrwch (Saesneg yn unig) ar gyfer Cyflwyniad i Tsieina a Diwylliant Tsieineaidd ar gyfer athrawon ysgolion cynradd neu Cyflwyniad i Tsieina a Diwylliant Tsieineaidd ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd.
Darllenwch straeon tri athro a'u teithiau mewn Tsieinëeg Mandarin.
Yn ogystal ag addysgu iaith, rydym hefyd yn cefnogi cymuned fywiog o athrawon Mandarin ledled Cymru drwy ein cylchlythyron chwarterol a’n Fforymau rheolaidd. Mae’r ddau’n cynnig cyfle i rannu arferion gorau a chyfnewid syniadau ar addysgu Mandarin gydag athrawon eraill ledled Cymru.
Cysylltwch â’n Rheolwr Prosiect Ysgolion i gael rhagor o wybodaeth.