Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau achos

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Ers 2008, mae Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina wedi bod yn cyflwyno amrywiaeth o gyrsiau a chyfleoedd gwahanol i ysgolion - gan gynnwys sesiynau blasu, clybiau Tsieina, cymwysterau a theithiau i Tsieina.

Wrth i gyd-destun Ieithoedd Tramor Modern yng Nghymru newid, ac o ystyried y cwricwlwm newydd a fydd yn cael ei gyflwyno cyn bo hir, mae llawer o ysgolion cynradd ac uwchradd bellach yn ystyried ffyrdd o gyflwyno Mandarineg yn rhan o’u cwricwlwm.

I ddangos sut mae hyn wedi'i gyflawni mewn ysgolion, mae Sefydliad Confucius Caerdydd wedi cynhyrchu casgliad o 5 astudiaeth achos, a ysgrifennwyd gan athrawon mewn ysgolion, sy’n amlygu'r ffyrdd gwahanol mae Mandarineg wedi cyfoethogi’u cwricwlwm ac annog ymgysylltu ar ran disgyblion.

Y gobaith yw y bydd 'Arddangos Mandarineg yn Ysgolion Cymru - Casgliad Achos’ yn helpu i ddangos effaith gadarnhaol cynnwys Mandarineg yn y cwricwlwm ac yn cynnig syniadau i ysgolion a allai fod yn ceisio gwneud yr un peth.

Showcasing Mandarin in Welsh Schools

The case studies cover, Learning Languages through culture, Mandarin and Inclusivity, Progression for post-16 students of Mandarin, Promoting Chinese Language and Culture through Project based-learning and Mandarin Qualifications.