Ewch i’r prif gynnwys

Addysg Seiberddiogelwch

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cydnabod bod Prifysgol Caerdydd yn Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seibr-ddiogelwch. Cyflawnon ni statws Aur ACE-CSE yn 2022, gan sicrhau bod ein lle fel un o'r deg prifysgol orau yn y DU sy'n darparu addysg seiberddiogelwch o ansawdd uchel.

Rydym yn gweithio i gryfhau a gwella ansawdd a darpariaeth addysg a hyfforddiant seiberddiogelwch. Mae ein harbenigwyr a'n hymchwilwyr yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn adeiladu ystod eithriadol a chynhwysfawr o sgiliau technegol sydd eu hangen i gadw sefydliadau'n ddiogel.

Ein rhaglenni

Nod ein rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig yw datblygu arweinwyr seiberddiogelwch yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yn y dyfodol drwy drochi myfyrwyr mewn amgylchedd deinamig, amlddisgyblaethol sy'n cofleidio datblygiadau mawr yn theori ac ymarfer seiberddiogelwch.

BSc Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforenseg
MSc Seiberddiogelwch
MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg

Ein hamcanion

Rydyn ni'n elwa o gysylltiadau a gwaith cydweithredol gyda'r diwydiant seiberddiogelwch ac rydyn ni'n cael effaith ledled Cymru ac ar draws y Byd. Ein nod yw:

  • cyflwyno ystod helaeth o weithgareddau allgymorth i bobl ifanc a'r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth am fygythiad seibr ac addysgu'r cyhoedd am ddiogelwch ar-lein, mentrau yn unol ag agenda Cenhadaeth Ddinesig ein Prifysgol
  • datblygu cyrsiau Datblygu Proffesiynol Parhaus (CPD) sy'n arwain y byd mewn medrau seiberddiogelwch i ategu ein rhaglenni academaidd a addysgir
  • cefnogi Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i feithrin a chadw mwy o dalent seiberddiogelwch yng Nghymru
  • ysbrydoli a chreu diddordeb yn yr arena hon ymhlith pobl ifanc Cymru drwy gynnig gweithgareddau allgymorth i ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach
  • darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth seiberddiogelwch i holl staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol
  • ymgysylltu â phartneriaid rhyngwladol i rannu arferion da, seilwaith systemau / profi gwelyau ac ymgysylltu â'r gymuned, nid yn unig i gryfhau ymwybyddiaeth o heriau seiberddiogelwch ond i gefnogi ymchwil sy'n arwain y byd.

Clywch gan ein myfyrwyr

Esther Pearson

Ar ôl graddio, ymunodd Esther ag Airbus ac mae'n rhan o dîm sy'n canolbwyntio ar ymchwilio a datblygu atebion newydd ac arloesol i fygythiadau seibr.