Ewch i’r prif gynnwys

Seiberddiogelwch

Rydym yn falch o fod yn gartref i gymuned ddeinamig, medrus ac arweiniol o arbenigwyr ac ymchwilwyr ym maes seiberddiogelwch.

Rydym yn cael ein cydnabod gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU yn Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch ac yn Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch.

Gwyliwch:

Gwyliwch ragor o'n fideos ar seiberddiogelwch ar ein sianel Youtube.

Addysg

Rydym wedi llywio rhaglen addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel i ateb y galw am weithwyr proffesiynol sydd â'r sgiliau i ddeall, nodi, atal ac ymateb i ymosodiadau seiber.

Addysg Seiberddiogelwch

Gan weithio gyda'r diwydiant seiberddiogelwch rydym yn darparu rhaglenni eithriadol a chynhwysfawr, hyfforddiant sgiliau a gwaith allgymorth.

Arweinydd addysg

Dr Yulia Cherdantseva

Dr Yulia Cherdantseva

Research Fellow/Associate

Email
cherdantsevayv@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0014

Ymchwil

Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar gyfuno dulliau ym meysydd gwyddor data a deallusrwydd artiffisial â dealltwriaeth ryngddisgyblaethol o risgiau seiber, gwybodaeth am fygythiadau, dulliau o nodi ymosodiadau, ac ymwybyddiaeth sefyllfaol.

Screen of potential cyber security threats

Canolfan Ymchwil Seiberddiogelwch

Mae Canolfan Ymchwil Seiberddiogelwch (CCSR) Prifysgol Caerdydd yn uned ymchwil academaidd flaenllaw ar gyfer dadansoddeg seiberddiogelwch.

Arweinydd ymchwil

Dr George Theodorakopoulos

Dr George Theodorakopoulos

Lecturer

Email
theodorakopoulosg@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4855