Facilities
Abacws

Abacws yw’r cartref newydd gwych i’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a’n cyrsiau gradd israddedig sy’n ymwneud â Chyfrifiadureg.
Mae’r adeilad chwe llawr trawiadol wedi’i adeiladu’n bwrpasol i ddiwallu anghenion ein disgyblaeth, ac fe’i dyluniwyd mewn ymgynghoriad â staff a myfyrwyr i sicrhau bod dysgu ac addysgu effeithiol wrth wraidd yr hyn rydyn yn ei gyflawni.
Mae Abacws yn cynnig y gorau oll o ran mannau addysgu newydd, gan gynnwys darlithfeydd ac ystafelloedd seminar sy’n annog cydweithredu a meddwl creadigol. Mae ein labordai cyfrifiaduron arbennig yn galluogi myfyrwyr i weithio’n unigol ac ar y cyd ar agweddau sylfaenol y pwnc megis codio, ac mae ein meddalwedd a’n hoffer arbenigol yn cael eu cynnal a’u cadw gan dîm technegol mewnol penodol yr ysgol.
Mae’r adeilad yn cynnwys amryw leoedd “arbenigol” sy’n galluogi myfyrwyr i weithio mewn modd cyfforddus ac anffurfiol, naill ar brosiectau grŵp neu astudiaethau unigol. Mae Abacws hefyd yn cynnig gweithdy Makerspace a TG i gefnogi prosiectau cyfrifiadureg ymarferol a labordy seiberddiogelwch ar gyfer addysgu ac ymchwil.
Adeiladau'r Frenhines

Mae’r rhan fwyaf o’n cyrsiau gradd MSc yn cael eu darparu o gyfadeilad Adeiladau’r Frenhines, sydd hefyd yn cynnwys yr Ysgol Peirianneg a’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.
Wedi'i lansio yn ddiweddar, mae'r Ystafell Turing yn gartref i’r Academi Gwyddorau Data ac yn gyfleuster astudio penodol, hyblyg o safon uchel sy’n cefnogi addysg ar sail prosiectau rhyngweithiol lle gall partneriaid, myfyrwyr a staff gydweithredu.
Mae ein hardal Arbrofi’n cael ei hadnewyddu’n helaeth ar hyn o bryd a bydd yn cynnig cyfleusterau ychwanegol o safon uchel at y rhai yn Ystafell Turing.
Yr Academi Feddalwedd Genedlaethol

Mae ein cyrsiau gradd Peirianneg Meddalwedd BSc a Pheirianneg Meddalwedd MSc yn cael eu cynnal yn yr Academi Feddalwedd Genedlaethol, sydd wedi’i hadeiladu’n bwrpasol i gefnogi ein dull cydweithredol o addysgu.