Ewch i’r prif gynnwys

Esther Pearson

Roedd Esther yn chwilio am gwrs oedd yn cynnig cyflogadwyedd, ac oedd yn golygu gwneud rhywbeth roedd hi'n ei garu. Isod, mae hi’n adrodd ei phrofiad yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

“Roedd gwneud rhaglen meistr am flwyddyn yn yr Ysgol Cyfrifiadureg yn fy ysbrydoli a newidiodd fy mywyd. Yn dilyn hynny, dechreuais i swydd wych sef bod yn beiriannydd gydag Airbus yng Nghasnewydd...”

Pam dewisoch chi astudio MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg

Roeddwn i wedi gweithio mewn banc cyn mynd i'r brifysgol, a dim ond pan oeddwn i'n 25 oed y dechreuais i astudio a chwilio am gwrs a oedd yn cynnig cyflogadwyedd, dilyniant ac amrywiaeth. Mae Cyfrifiadureg yn berthnasol i bob sector a phob rhan o'n bywyd felly dyma fentro arni. Ar ôl graddio roeddwn i’n edrych ar opsiynau ôl-raddedig, ac ro’n i’n ansicr o ran beth fyddai dyfodol y rhain.

Beth ddysgoch chi?

Er fy mod i wedi ymdrin â seiberddiogelwch pan oeddwn i’n fyfyriwr israddedig, roedd manylder y rhaglen meistr, a oedd yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol mewn pynciau megis fforenseg a meddalwedd faleisus a chryptograffeg yn arbennig iawn. Mae gennych chi’r cyfle i wneud ymchwil ar y cyd â phartneriaid ym myd diwydiant a chewch oruchwyliwr yn y Brifysgol - a cheir ymchwilwyr seiberddiogelwch a gydnabyddir yn rhyngwladol yn yr Ysgol.

I ble aethoch chi wedyn?

I Airbus i fod yn beiriannydd graddedig. Roedd y cwrs Meistr yn gwrs anodd a heriol ond nid oedd yn hir cyn imi wirioni arno.  Roedd wedi fy ysbrydoli heb os nac oni bai. Prin y gallwn i gredu bod hyn yn rhywbeth y gallwn i ei wneud bob dydd o hyn allan ac felly roedd glanio yng Nghasnewydd gydag Airbus yn anhygoel. Cyn imi hyd yn oed ddechrau yn fy swydd newydd, ces i groeso cynnes iawn. Dyrannwyd cyfaill imi a gysylltodd â mi, yn ogystal â nifer o bobl eraill a ddywedodd wrtha i y dylwn i gysylltu os oedd gen i gwestiynau. Nid oedd yn cymryd llawer o amser imi ymgartrefu ar ôl imi ddechrau, ac i deimlo’n aelod gwerthfawr o'r tîm.

Dywedwch ragor wrthon ni

Mae canran uwch o fenywod na'r cyfartaledd ar y cwrs meistr, ac mae’r ganran yn mynd yn fwy ac yn hynod bwysig i'r Brifysgol. Mae hyn yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth ond nid symboleiddiaeth. Nid sgiliau technegol yw'r unig sgiliau sydd eu hangen yn y maes hwn. Mae'r sgiliau’n rhai creadigol ac yn canolbwyntio ar bobl. Mae'n ymwneud â deall y gynulleidfa, y defnyddiwr, ac mae gweithio gyda chyfuniad amrywiol o bobl yn gwella hynny. Roedd fy nhraethawd hir yn canolbwyntio ar sut rydyn ni’n ysgogi pobl i fod yn ymwybodol o’r seiberfyd a datblygu arferion sy’n seiberddiogel. Roedd yn hynod ddiddorol. Ond mae hefyd yn amlwg y byddwch chi’n eithrio hanner eich cwsmeriaid os mai dynion yw'r holl bobl sy'n creu cynnyrch neu systemau.

Yn Airbus rwy'n rhan o dîm sy'n canolbwyntio ar ymchwilio i atebion newydd ac arloesol a all barhau yn y dyfodol yn ogystal â datblygu’r rhain. Gan fod bygythiadau seiber yn ehangu’n ddyddiol bron iawn, mae'n bwysig ein bod yn gallu rhagweld y risgiau hyn, ac mae wedi bod yn waith hynod ddiddorol. Gan fy mod yn rhan o dîm sy'n wrywaidd yn bennaf, rwy'n ffodus o allu gweithio ochr yn ochr â llawer o fenywod gwych sy'n fodelau rôl rhagorol. Dw i erioed wedi teimlo nad ydw i’n perthyn yno. Bydda i bob amser yn teimlo'n ddigon cyfforddus i allu gwneud awgrym neu gynnig rhywfaint o fewnbwn, heb ofni cael fy mychanu neu na fydd pobl yn fy nghymryd o ddifrif. Rwy'n credu bod diwylliant a gwerthoedd y cwmni yn helpu llawer yn yr achos hwn ac mae Cynhwysiant ac Amrywiaeth yn rhan o ffordd Airbus o weithio.