Discover Economics ym Mhrifysgol Caerdydd
-
Dydd Gwener 10 Mai 2024, 10:30 - 14:00
Discover Economics ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae economeg yn bwnc cyffrous, ac mae ei deall yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ofyn cwestiynau ehangach am y gymdeithas y maen nhw’n byw ynddi. Fodd bynnag, ychydig iawn o syniad sydd gan lawer o bobl am beth yw economeg.
Nod Discover Economics yw rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gael gwybod rhagor am y ddisgyblaeth a'r cyfleoedd gyrfaol posibl yn sgil astudio economeg.
Y llynedd cymerodd 3,000 o bobl ifanc ran yn un o weithdai Discover Economics ac mae’r canlyniadau'n dangos bod cynnydd o 13% o ran y sawl a nododd eu bod yn debygol o astudio economeg ar ôl cymryd rhan yn y sesiwn.
Rydyn ni’n eich gwahodd i fynd i un o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb Discover Economics yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Prif amcan y digwyddiad hwn yw ysbrydoli, cefnogi ac annog pobl ifanc, yn enwedig y rheini o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, i astudio economeg yn y Brifysgol.
Beth sy’n digwydd yn y digwyddiad?
Dyma sesiwn unwaith ac am byth a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd a bydd yno gyfres o weithgareddau dan arweiniad siaradwyr o ystod o gefndiroedd, gan gynnwys myfyrwyr sy’n astudio economeg ar hyn o bryd.
Y bwriad yw rhoi gwell dealltwriaeth i bobl ifanc o economeg drwy gyflwyno enghreifftiau o ddefnyddio economeg mewn ystod o gyd-destunau a chyflwyno gyrfaoedd economegwyr proffesiynol.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu mwy am sut i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn y Gymdeithas Economeg Frenhinol a noddir gan KPMG.
Nod y gystadleuaeth yw annog myfyrwyr i greu eu syniadau eu hunain wrth ddadansoddi problemau economaidd cyfoes sy'n wynebu'r DU a'r byd.
Rhaglen
10.30-11.00: Cyrraedd, cofrestru â lluniaeth
11.00-11.15: Cyflwyniad
11.15-12.00: Gweithdy 1 – Beth yw economeg a pham dylwn i ei hastudio?
12.00-12.45: Cinio
12.45-13.00: Bod yn un o economegwyr Llywodraeth Cymru
13.00-13.45: Gweithdy 2 - Economegydd Ifanc y Flwyddyn 2024
13.45-14.00: Geiriau cloi
14.00: Ymadael
Pwy ddylai fynd?
Anelir y digwyddiad at fyfyrwyr rhwng Blwyddyn 10 a Blwyddyn 12 sydd hwyrach yn ystyried astudio economeg yn y dyfodol ac a hoffai wybod rhagor.
Dim ond ysgolion/colegau gwladol sy'n gymwys i gymryd rhan.
Bydd y sesiwn yn rhoi cyngor gyrfaol a’r cyfle i siarad â thîm gyrfaoedd Prifysgol Caerdydd i gael arweiniad wrth gyfrannu at eich ysgol i fodloni Meincnodau Gatsby.
Ynglŷn â'r trefnydd
Discover Economics ac Ysgol Busnes Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn discovereconadmin@res.org.uk i gael rhagor o fanylion.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion, Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd
- Colum Road
- Cathays
- Caerdydd
- CF10 3EU
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.