Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau iaith a diwylliant Tsieinëeg Mandarin ar-lein


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg

This is students in the Shaolin Temple in China practising Kung Fu. Image by Manfred Bieser from Pixabay

Mae'r adnoddau hyn wedi'u dwyn ynghyd i gefnogi pedwerydd diben Pedwar Diben Cwricwlwm Newydd Cymru.

Mae'n ymwneud â phlant fel 'unigolion iach a hyderus sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas' ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar iechyd a lles Tsieineaidd. Gall athrawon ysgol gynradd ac uwchradd ddefnyddio'r adnoddau yn eu hystafelloedd dosbarth, neu gan unigolion gartref.

Iechyd a lles Tsieineaidd

Ymarferion llygaid

Mae ysgolion Tsieineaidd wedi bod yn defnyddio ymarferion llygaid er mwyn helpu i amddiffyn golwg ac atal myopia ers yr 1960au. Mae'r plant yn perfformio'r ymarferion pum munud yn y dosbarth ochr yn ochr â cherddoriaeth unwaith neu ddwywaith y dydd.

Maen nhw'n seiliedig ar theori Meddygaeth Draddodiadol o Tsieina sydd yn ôl y sôn yn ysgogi'r llif o egni neu 'qi', gan leihau'r straen ar y llygaid a chynorthwyo eu swyddogaeth.

O ran meddygaeth Orllewinol, mae'r ymarferion yn cynyddu cylchrediad y gwaed ac yn ymlacio cyhyrau o amgylch y llygaid, gan helpu i leihau blinder yn yr ardal hon.

Adnoddau

Mae plant yn dysgu sut i wneud tri ymarfer llygaid gan ddefnyddio'r fideo YouTube hwn o 'Frenin Meddygaeth' Tsieina, Sun Simiao.

Cân a dawns

Addysgwch eich disgyblion i ganu a dawnsio fel plant yn Tsieina gyda'r gân a'r ddawns hon. Unwaith y byddant wedi dysgu'r gân a'r ddawns, gallant ymarfer gyda'i gilydd yn ystod amser egwyl a pherfformio mewn sioe dalent hyd yn oed!

Adnoddau

  • Bydd y plant yn dysgu'r gân, 'When Smiling You Are Really Nice' drwy wylio fideo ar YouTube sy'n cynnwys symbolau Tsieineaidd, Pinyin, geiriau Saesneg ac ystumiau llaw.
  • Mae disgyblion yn ymarfer y ddawns sy'n cyd-fynd â'r gân gan ddefnyddio'r fideo arddangos manwl hwn sy'n mynd trwy bob cam, neu'r fideo hwn, sy'n cychwyn yn arafach cyn symud ymlaen i gyflymder arferol. Mae'r ddau fideo ar YouTube.

Yin ac Yang bwyd Tsieineaidd

Deuoliaeth Yin ac Yang yw un o egwyddorion allweddol meddylfryd Tsieineaidd. Mae'r egwyddor hon, sy'n deillio o athroniaeth Taoaidd, wedi'i hymgorffori mewn llawer o egwyddorion diwylliant Tsieineaidd, felly beth yw ei hystyr o ran bwyd Tsieineaidd?

Pan fyddwn yn siarad am Yin ac Yang rydym yn ei olygu mewn termau perthynol, a chredir bod gan bopeth agweddau yin ac yang. Felly, sut mae pobl o Tsieina yn rhannu bwyd yn ddau gategori? Sut caiff athroniaeth Yin ac Yang ei chymhwyso i bryd Tsieineaidd dilys, o ran cydbwysedd y blasau, cynhwysion a thechnegau coginio? Pam ei bod mor bwysig cynnal cydbwysedd o Yin ac Yang yn y diet?

Adnoddau

Tai chi - Crefft ymladd Tsieineaidd

Mae Tai chi (neu Tàijí quán yn Tsieinëeg), a elwir hefyd yn "Shadowboxing", yn grefft ymladd Tsieineaidd fewnol sy'n cael ei hymarfer ar gyfer hyfforddiant amddiffyn, buddion iechyd a myfyrdod.

Mae'r term taiji yn gysyniad cosmolegol Tsieineaidd ar gyfer fflwcs yin ac yang, ac mae 'quan' yn golygu dwrn.

Adnoddau

Adnoddau ar-lein eraill i ysgolion cynradd ac uwchradd

Mae Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina yn gydweithrediad rhwng tri Sefydliad Confucius Cymru ym Mhrifysgolion Caerdydd, Bangor ac UWTSD.

Rydym yn darparu cefnogaeth ar gyfer Ystafelloedd Dosbarth Confucius ac ysgolion Cysylltiol sy'n addysgu, neu sydd â diddordeb mewn dysgu, iaith a diwylliant Tsieinëeg.

Rhestr o gyrsiau ac adnoddau ar-lein a ddarperir ar hyn o bryd gan Brosiect Ysgolion Cymru Tsieina yw'r canlynol.

Prifysgol Bangor

Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig ystod o gyrsiau HSK ar-lein ar ei wefan, a chyfres o weithgareddau diwylliannol megis fideos, caligraffeg a thorri papur ar ei dudalen Facebook.

Mae’n cynnig gwersi a gweithdai Tsieinëeg ar ei sianel YouTube, hefyd.

Prifysgol Caerdydd

Mae cyrsiau ‘Mandarin i Athrawon’ Sefydliad Confucius Caerdydd ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon cynradd ac uwchradd, gan arwain at nawdd i astudio cyrsiau Tsieinëeg Addysg Broffesiynol y Brifysgol.

Mae adnoddau dysgu ac addysgu eraill ar ein gwefan hefyd, yn ogystal â gwersi iaith a diwylliant Mandarin y caiff ein hysgol eu gweld trwy anfon neges at ucelev@caerdydd.ac.uk.

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (UWTSD)

Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyrsiau Tsieinëeg bob wythnos trwy Zoom - hyfforddiant am awr ac adnoddau astudio gartref wedyn.

Gallwch astudio cyrsiau ar-lein yn wythnosol hefyd yn QigongDiwylliant Tsieinëeg, a dysgu ar-lein ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gan gynnwys adnodd 'dysgu i addysgu' ar gyfer athrawon Ysgol Gynradd.


Ynglŷn â'r trefnydd

Sefydliad Confucius Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn ucelev@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Cynlluniwyd yr adnoddau ar-lein ar gyfer athrawon ysgolion cynradd, canol ac uwchradd i'w defnyddio gyda'i disgyblion yn y dosbarth. Gall plant eu defnyddio'n annibynnol hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu gydag eraill.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickAthrawon
  • TickTeuluoedd
  • TickSylfaen - 3-7 oed, blwyddyn sylfaen 2
  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickIechyd a lles
  • TickY Dyniaethau
  • TickIeithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • TickAllgyrsiol

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickDigwyddiad
  • TickAdnodd ar-lein

Diben

  • TickCefnogi themâu cwricwlwm

Rhannwch y digwyddiad hwn


Partneriaid

  • Bangor University
  • Hanban
  • University of Wales Trinity Saint David