Ewch i’r prif gynnwys

Y gymuned

Gardener at the Grange Pavilion

Mae Pharmabees wedi dal dychymyg pobl o bob cefndir yng Nghaerdydd.

Byrddau iechyd

Rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i greu gardd peillwyr llesiant yn Ysbyty Ystrad Mynach.

Y nod yw creu man cefnogol i gleifion a staff, a thrwy'r broses hon ddatblygu model y gellid ei rannu gyda chyfleusterau gofal iechyd ar draws Cymru.

Rydym ni hefyd yn siarad gyda bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro am brosiect tebyg ar safle  Ysbyty Llandochau a chysylltodd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg â ni yn ddiweddar.

Gardd peillwyr llesiant - rhagor o wybodaeth.

Gwyrddio Cathays

Yn bennaf, mae'r stoc dai yn Cathays yn cynnwys tai Fictoraidd dwysedd uchel, deiliadaeth luosog, gyda myfyrwyr yn ffurfio'r mwyafrif o'r boblogaeth yn ystod y tymor.  Mae strydoedd yn Cathays ymhlith yr isaf yng Nghaerdydd o ran gwyrddni (1%) ymhell islaw cyfartaledd Cymru, sef 13%.

Cathays street
A typical street in Cathays, without any greenery

Er mwyn casglu barn amgylchedd lleol myfyrwyr a thrigolion tymor hir Cathays, cynhaliodd myfyrwyr Gwyddorau Cymdeithasol yn eu trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd dan oruchwyliaeth Dr Sara MacBride-Stewart o Sefydliad Lleoedd Cynaliadwy'r brifysgol 80 o gyfweliadau 'dewch gyda ni' lled-strwythuredig mewn chwe lleoliad gwahanol yn Cathays yn ystod gwanwyn 2020 (gweler y Ddogfen Gysylltiedig a gynhyrchwyd gyda chefnogaeth Alys Morris).

Roedd preswylwyr o'r farn bod eu cymunedau lleol yn fudr ar y cyfan ac yn brin o 'natur' a gwyrddni. Roeddent yn besimistaidd o ran pa newid fydd yn digwydd yn y tymor byr gan eu bod yn teimlo bod anghenion myfyrwyr a’r Brifysgol yn cael eu blaenoriaethu. O ran datblygu Cathays, cadarnhaodd preswylwyr eu bod yn teimlo bod angen mwy o fannau gwyrdd i wella sut mae’r ardal yn edrych yn gyffredinol a hyrwyddo lles cymunedol. Gallai mwy o fannau gwyrdd, yn ogystal â defnyddio mannau gwyrdd at ddiben cymunedol er mwyn dod â’r gymuned ynghyd, wella lles cymunedol.

Mewn cydweithrediad â chyngor Caerdydd, gosodwyd planwyr tua diwedd 2020 mewn amrywiaeth o safleoedd ar hyd stryd Fanny mewn ymgais i greu mannau gwyrdd lleol.

Planter
Enghraifft o un o'n planwyr yn Cathays

Ein bwriad yng ngwanwyn 2021, mewn partneriaeth â chymunedau lleol, yw tyfu planhigion sy'n gyfeillgar i beillwyr yn y planwyr hyn ac mewn safleoedd ar draws Cathays a chofnodi amrywiaeth a nifer y pryfed sy'n ymweld â'r planhigion hyn. Y wybodaeth hon rydym yn ein helpu i fonitro effeithiau newid yn yr hinsawdd a llygredd lleol ar fioamrywiaeth drefol.

Porth Cymunedol Grangetown

Gwyliwch ein fideo am sut rydym ni'n creu partneriaeth ar gyfer newid.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i feithrin partneriaeth hirdymor gyda thrigolion Grangetown i wneud yr ardal yn lle gwell byth i fyw ynddi.

Yn yr hen  Bafiliwn Bowls yn Grangetown, rydym ni wedi cydweithio'n agos gyda'r gymuned leol i gynllunio, adeiladu a phlannu gardd sy'n croesawu gwenyn.

Bee garden

Canolfan siopa Dewi Sant

Mae'r ganolfan, sydd yng nghanol Caerdydd, yn croesawu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae hefyd yn gartref i yn agos i filiwn o wenyn mêl sy'n byw ar do'r adeilad.

Rydym ni wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Ganolfan i godi sgiliau ei gwenynwyr a datblygu dulliau arloesol i ymgysylltu â'r cyhoedd ar faterion yn ymwneud â'r amgylchedd.

Prosiect gardd gymunedol San Pedr

Children planting at the Grange Pavilion

Mae ymdrechion y gymuned leol wedi creu gardd nesaf at y Neuadd Gymunedol yn San Pedr y Tyllgoed.

I helpu'r ardd i ffynnu darparwyd cwch gwenyn a chyllid er mwyn hyfforddi gwirfoddolwr cymunedol yn wenynwr.

Mae'r Gerddi nesaf at Ysgol Gynradd y Tyllgoed a'n nod hirdymor yw creu cyfleoedd i'r plant ymweld a dysgu am y rôl allweddol mae peillwyr yn ei chwarae yn cadw Caerdydd yn fan gwyrdd a dymunol.

St Prosiect gardd gymunedol San Pedr - rhagor o wybodaeth.

Glasu'r Bae

Dros y blynyddoedd diwethaf mae bae Caerdydd wedi gweld datblygiadau sylweddol i greu amgylchedd newydd i weithio a chwarae ynddo.

Er bod y newidiadau hyn i'w croesawu, maent wedi digwydd ar draul natur ac am y rheswm hwn rydym ni'n cydweithio gydag ysgolion lleol, grwpiau gwirfoddol fel  Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i wneud Bae Caerdydd yn fwy deniadol i beillwyr.

Mae cynlluniau ar waith i osod cychod gwenyn ar do Adeilad y Pierhead ac mae'r WCVA mewn cydweithrediad ag Ysgol Gynradd Mount Stuart wedi creu gardd wenyn yng nghornel maes parcio lleol.

Cymerwch ran

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy, neu os oes gennych chi syniad yr hoffech chi ei drafod.

Pharmabees