Ewch i’r prif gynnwys

Campws

redwood planting

Y Brifysgol yw un o'r perchnogion tir mwyaf yng Nghaerdydd ac am y rheswm hwn mae ganddi rôl allweddol i'w chwarae i gefnogi bioamrywiaeth y ddinas.

Gyda chefnogaeth adran Ystadau'r Brifysgol a'r elusen Buglife, rydym ni wedi hau planhigion sy'n croesawu peillwyr mewn safleoedd ar draws campws y brifysgol gyda golwg ar ddarparu digon o fwyd i'r creaduriaid hanfodol hyn.

Unwaith y byddant wedi tyfu, bydd y planhigion hyn yn darparu bwyd i wenyn Redwood a pheillwyr eraill ar gampws Cathays y Brifysgol.

Redwood

Cwch gwenyn

Gyda chymorth staff a myfyrwyr rydym ni wedi gosod cychod gwenyn ar do Adeilad Redwood, cartref yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.

Gyda chymorth elusen  Buglife rydym ni hefyd wedi tirlunio'r gerddi o gwmpas yr adeilad gyda phlanhigion Tywyn gwrthfacteriol - er enghraifft Galium odoratum (llysiau'r eryr), Taraxacum officinale (dant y llew) a Trifolium spp (meillion).

Er mwyn bwydo'r miloedd o wenyn ychwanegol rydym ni wedi'u cyflwyno ar draws y campws a sicrhau nad ydym ni'n anfanteisio peillwyr eraill rydym ni'n cynyddu'r porthiant a bioamrywiaeth ar ystâd y brifysgol.  Dros y flwyddyn ddiwethaf, yn gweithio gyda'r adran ystadau, rydym ni wedi plannu tua 1000m2 o flodau gwyllt sydd wedi cynnwys planhigion a nodwyd gan ein hymchwil ni.

pharmabees inspection

Gwenyn Bute

Cwch gwenyn a chytref wyllt

Mae gwenyn mêl wedi byw ar Adeilad Bute ers nifer o flynyddoedd - y tu mewn i'r ddraig goch sy'n sefyll uwchlaw'r brif fynedfa - ond cytref wyllt yw hon.

Gosodwyd cwch gwenyn ar y to yn ystod haf 2016 gyda chymorth gwenynwyr yn Adeilad Redwood oedd wedi llunio'r protocolau a'r gweithdrefnau diogelwch angenrheidiol.

Ymunodd staff o JOMEC, Pensaernïaeth, Llyfrgell Bute ac adeilad Morgannwg â Chlwb Gwenyn Bute ac mae chwe aelod wedi'u hyfforddi gan Nature's Little Helpers yn Llysfaen. Ychwanegwyd ail gwch gwenyn yn 2017.

Cafwyd y mêl cyntaf o'r cwch ym mis Gorffennaf 2017 ac roedd ar gael i aelodau'r clwb a staff eraill o Adeilad Bute yn gyfnewid am rodd i brosiect campws croesawgar i wenyn y brifysgol.

installation of bute bees

Plannu peillwyr

Yn 2017 cafwyd caniatâd terfynol i blannu perlysiau a blodau 'croesawgar i wenyn' ar flaen yr adeilad. Cafwyd oedi i'r cynllun oherwydd gwrthwynebiad gan rai aelodau o staff Pensaernïaeth oedd yn awyddus i gadw estheteg y Garreg Portland gyda lawnt yn ei amgylchynu ym Mharc Cathays.

Gwrthododd y cyngor y gwrthwynebiadau a phlannodd aelodau o'r clwb arlleg gwyllt, briallu, grug ac eirlysiau a gafwyd yn rhodd gan Bug Life. Llwyddodd un o'r myfyrwyr MA Newyddiaduraeth Ryngwladol i ddal y digwyddiad ar fideo:

Gwyliwch y fideo am blannu peillwyr.

Gwenyn Fferyllol ar Adeilad Hadyn Ellis

Yn ddiweddar ymunodd staff Haydn Ellis â'r prosiect ar ôl codi arian i gael eu cwch gwenyn eu hunain a phlannwyd blodau gwyllt i helpu i gynnal y gwenyn.

Heb os un o'r pethau gorau am y prosiect oedd awydd pobl i gymryd rhan, i'r graddau bod ganddynt gymaint o wirfoddolwyr i ddod yn wenynwyr, y bu'n rhaid tynnu enwau o het.

Mae'r gwenynwyr eu hunain yn gweithio ar draws ysgolion ac adrannau gwahanol felly bu'n ffordd ragorol i ddod â phobl at ei gilydd.

heebees keepers

Camau nesaf

Mae'r gwenyn wedi ymgartrefu'n dda ac yn gytref hynaws.

Cymerwch ran

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy, neu os oes gennych chi syniad yr hoffech chi ei drafod.

Pharmabees