Y Prif Adeilad

Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT
Mae mynediad gwastad at y Prif Adeilad o Blas y Parc. Mae mynediad o Faes yr Amgueddfa drwy stepiau. Mae gan y brif fynedfa a’r fynedfa ganolog goleddfau isel a drysau awtomatig.
Mae mynediad gwastad drwy’r brif fynedfa ar y chwith gyda drysau awtomatig.
Mae’r lifft wedi’i lleoli yn yr adain ddeheuol (mynedfa i’r chwith), drwy’r set gyntaf o ddrysau dwbl ar y dde. Mae’r lifft yn gwasanaethu pob llawr a hanner lloriau; yr islawr isaf (-2), islawr (-1), gwaelod (0), lefel hanner cyntaf (1), llawr cyntaf (2).
Gall fod angen cymorth ar rai i weithredu’r lifft gan fod angen agor a chau dau ddrws trwm. Ewch I’r dderbynfa neu ffoniwch y dderbynfa ar 029 2068 8536 os oes angen cymorth arnoch.
Mae’r ffreutur wedi’i leoli ar y llawr gwaelod. O’r fynedfa hygyrch Plas y Parc, dilynwch y coridor i’r dde ac mae’r ffreutur ar y dde.
Mae yna doiled hygyrch neillryw wedi’i lleoli ar y llawr waelod, yn yr adain ddeheuol (rhif ystafell 0.35).
Parcio
Cewch fynediad i faes parcio’r Prif Adeilad o Blas y Parc.
Mae yna gyfyngder o ran parcio ac mae yna 5 lle parcio hygyrch wedi’i ddynodi. Gall ymwelwyr gadw lle parcio ymlaen llaw drwy ffonio’r dderbynfa ar 029 2087 9092 gyda’r manylion canlynol:
- plât rhif car,
- dyddiad
- pwrpas yr ymweliad.
Mae yna leoedd parcio ar hyd stryd Plas y Parc a Rhodfa’r Amgueddfa, lle gall deiliaid bathodyn glas barcio am ddim.
Parcio ar gyfer beiciau
Mae yna 68 o leoedd parcio beic a rannir rhwng tri lleoliad o amgylch yr adeilad.
Parcio Car
Bicycle parking
There are 68 bicycle parking spaces shared between three locations around the building.
Dewiswch adeilad o'r rhestr i ddod o hyd iddo ar y map.