Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau ymchwil

Mae ein cyfleusterau byd-eang ar gael i fusnesau a sefydliadau ar draws y byd.

I gefnogi ein gwaith ymchwil sy'n arwain yn fyd-eang, rydym yn buddsoddi miliynau i ddatblygu'r cyfleusterau diweddaraf a'r arbenigwyr sy'n eu rhedeg. Mae llawer o'n hoffer ar gael i'w logi ar sail ymgynghoriaeth ar gyfraddau cystadleuol iawn. Gallwn ddarparu cefnogaeth arbenigol a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch archeb.

Mae ein cyfleusterau'n amrywio o labordai nodweddu amgylcheddol a gwasanaethau biotechnoleg i systemau tanio tyrbinau nwy, labordai mellt, a Champws Arloesedd Caerdydd.

Cyfleusterau allweddol

Nodwch fod y wybodaeth isod ar gael trwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

The ARCCA Machine Room

Uwch-gyfrifiadura ar gyfer Ymchwil

Mae Cyfrifiadura Ymchwil Uwch yng Nghaerdydd (ARCCA) yn cynnig y caledwedd a meddalwedd diweddaraf er mwyn helpu i fynd i'r afael â heriau ymchwil byd-eang ein hoes.

PET Scanner

Sganiwr PET

Mae gennym gyfleusterau tomograffeg allyrru positronau (PET) o’r radd flaenaf, a dyma’r rhai cyntaf o’u math yng Nghymru.

Lab technician using the qPCR robot.

Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog

Rydym ni’n gyfleuster technoleg achrededig ISO 9001:2015 ac GCLP ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n cynnig mynediad i ystod eang o gyfleusterau gwyddorau bywyd i alluogi eich ymchwil.

Biological samples

Banc Bio

The Biobank distributes both healthy and diseased samples to support academic and commercial research.

Monitro symudiadau yn y Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Cyhyrysgerbydol

Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol

Rydym yn cynnig canolfan integredig, flaenllaw ar gyfer ymchwil i fiofecaneg gyhyrysgerbydol a biobeirianneg.

Dadansoddiad Sbectrosgopeg Ffoto-electron Pelydr-x (XPS)

Mae ein sbectromedr yn cyfuno technolegau’r genhedlaeth nesaf i gynhyrchu delweddau meintiol, paralel mewn amser real gyda thechnegau sbectrosgopeg manwl iawn ym mhob maes dadansoddi.

Sganwyr ymennydd

Mae ein technoleg yn cynnwys delweddu cyseinedd magnetig (MRI) gweithredol a strwythurol, technegau magneto-enceffalograffi ac electro-enceffalograffi, a dulliau symbylu magnetig trawsgreuanol.

Labordy goleuadau

Mae gennym rai o'r cyfleusterau gorau yn y byd ar gyfer profion ac ymchwil ym maes golau, ynghyd â thîm o staff hynod brofiadol.

Profion tyrbin nwy

Mae gennym rai o'r unig gyfleusterau profi tyrbinau nwy yn y byd, gyda nodweddion sy’n eu gwneud yn unigryw

Cyfleuster Genomeg Parc Geneteg Cymru

Defnyddio geneteg i hybu ymchwil, gofal iechyd, addysg ac arloesi.

Campws Arloesedd

Trawsnewid ein hamgylchedd adeiledig i gefnogi newid yn ein gweithgareddau ymchwil ac arloesedd