Seiciatreg plant a phobl ifanc

Ein cenhadaeth ymchwil yw cynhyrchu canfyddiadau a fydd yn gwella iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Ein hymchwil
Mae ein hymchwil ym maes seiciatreg plant a phobl ifanc yn cwmpasu pedwar maes allweddol:
Nod ein hymchwil iselder a gorbryder yw:
- archwilio'r ffactorau sy'n achosi iselder mewn pobl ifanc, asesu sut mae iselder yn datblygu, a nodi targedau ar gyfer atal y cyflwr
- datblygu dulliau ar gyfer canfod y cyflwr yn gynnar, ymyriadau, a rhaglenni addysg seicoleg mewn cydweithrediad â phobl ifanc ac ymarferwyr.
Darganfyddiadau ac allbynnau diweddar
- Mae gorbryder ac anniddigrwydd, ynghyd ag adfyd cymdeithasol, yn llwybrau pwysig tuag at iselder ymhlith y glasoed, ac felly’n dargedau ar gyfer atal y cyflwr.
- Gall ffactorau cymdeithasol a ffordd o fyw helpu i hybu gwydnwch ymhlith pobl ifanc sydd â risg deuluol uwch o iselder
- Rhaglen ddigidol ar gyfer pobl ifanc ag iselder a’u teuluoedd/gofalwyr a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â phobl ifanc eu hunain.
- Mae llwybrau symptomau iselder a gorbryder o'r arddegau hyd at ganol oed yn dangos newidiadau datblygiadol pwysig; mae gan hyn oblygiadau ar gyfer haenu yn y dyfodol.
Mae ein hymchwil yn y maes hwn yn archwilio datblygiad, achosion, a chysylltiadau â gorbryder ac iselder. Ein nod yw:
- archwilio hanes naturiol, canlyniadau, a'r ffactorau sy'n achosi ADHD, awtistiaeth a phroblemau cyfathrebu o blentyndod cynnar i fywyd oedolyn;
- nodi'r ffactorau sy'n achosi ADHD ac ymchwilio i pam mae gwahaniaethau rhwng y rhywiau gan ddefnyddio genomeg a chynlluniau epidemiolegol;
- ymchwilio i anniddigrwydd difrifol a pham mae’r rhai ag ADHD ac ASD yn wynebu risg uwch o orbryder ac iselder.
Darganfyddiadau ac allbynnau diweddar
- Mae llwytho genetig ADHD (sgoriau risg genetig) ac aml-forbidrwydd (mwy nag un broblem niwroddatblygiadol) yn arwydd o lwybr ADHD parhaus.
- Pam mae diagnosis o anhwylderau niwroddatblygiadol yn fwy cyffredin ymhlith bechgyn na merched.
- Animeiddiad wedi'i gyd-gynhyrchu ar ADHD i blant, wedi'i ariannu gan Ymddiriedolaeth Wellcome (i'w ryddhau ym mis Hydref 2019).
- Carfan cleifion ADHD electronig Cymru gyfan mewn cydweithrediad â Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe.
- Cyfraniad at astudiaeth enetig ADHD gydweithredol ryngwladol fwyaf y byd, a nododd y loci genetig cyffredin cyntaf ar gyfer ADHD.
Ein nodau ymchwil:
- archwilio datblygiad a chanlyniadau problemau iechyd meddwl ar draws cwrs bywyd mewn carfannau sy'n seiliedig ar boblogaeth;
- nodi amlygiadau amgylcheddol achosol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a chynlluniau sy’n cynnig gwybodaeth;
- archwilio sut mae ffactorau risg genetig ar gyfer clefydau a nodwyd mewn astudiaethau cleifion yn effeithio ar ddatblygiad a llwybr problemau iechyd meddwl yn y boblogaeth yn fwy eang;
- archwilio tueddiadau yn nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl plant a’r glasoed yn y boblogaeth, a’r rhesymau dros y rhain.
Darganfyddiadau ac allbynnau diweddar
- Gallai namau gwybyddol, cymdeithasol, ymddygiadol ac emosiynol mewn plentyndod, sy'n gysylltiedig â sgitsoffrenia mewn astudiaethau datblygiadol risg uchel, gynrychioli nodweddion cynnar tueddiad genetig.
- Mae problemau iechyd meddwl wedi dod yn fwy cyffredin dros amser ymhlith y glasoed, mae anghydraddoldebau iechyd meddwl wedi cynyddu, ac mae canlyniadau cymdeithasol, addysgol ac iechyd i blant â phroblemau iechyd meddwl wedi gwaethygu.
Ein nodau ymchwil:
- ymchwilio i iechyd meddwl pobl ifanc a’u bywyd yn yr ysgol. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Seicoleg, DECIPHer a Phrifysgol Abertawe;
- datblygu dulliau newydd o gynnwys asesiadau iechyd meddwl dilys, cysylltiadau data hydredol a chysylltiadau diogel â chofnodion iechyd electronig mewn ymchwil mewn ysgolion, a phrofi dichonoldeb casglu samplau genetig mewn ystafelloedd dosbarth. Rydym yn gweithio yn y maes hwn drwy’r Astudiaeth Lles Meddyliol Pobl Ifanc: Genynnau a’r Amgylchedd (MAGES);
- nodi ffyrdd o hyrwyddo iechyd meddwl da yn ystod y cyfnod pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd a pha mor bwysig yw oedran plant o fewn eu blwyddyn ysgol ar gyfer iechyd meddwl.
Prosiectau presennol
Trefnu hyfforddiant a gwybodaeth
Ein nod yw cefnogi a datblygu pobl dalentog, a’u galluogi i ddod yn wyddonwyr y dyfodol sy'n ymchwilio i iechyd meddwl pobl ifanc.
Rydym wedi ein gwreiddio yn y GIG ac mae gennym gysylltiadau ymchwil, hyfforddiant a chlinigol cryf â byrddau iechyd ledled Cymru. Rydym yn rhoi hyfforddiant mewn iechyd meddwl ieuenctid i fyfyrwyr meddygol israddedig, meddygon arbenigol ym maes seiciatreg plant a phobl ifanc, ac ymarferwyr eraill.
Mae ein gweithgareddau yn y maes hwn yn cynnwys:
- helpu staff addysgu a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill i ddeall mwy am anawsterau plant a’r mathau o gymorth y gallai fod eu hangen ar y plant hyn drwy ein cysylltiadau â’r Uned Asesu Niwroddatblygiad;
- llywio’r ffordd y caiff gwasanaethau clinigol eu trefnu, er enghraifft, creu clinigau niwroddatblygiadol traws-ddiagnosis a thraws-ddisgyblaeth i blant a threialu gwasanaeth pontio clinigol i bobl 15 – 25 oed yn llwyddiannus;
- cyfraniadau drwy grŵp cyfeirio arbenigol at adolygiad cenedlaethol gan y llywodraeth o’r ddarpariaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a chyflwyniad i is-bwyllgor o ASau yn San Steffan fel rhan o ymgyrch Senedd Ieuenctid y DU ar wasanaethau iechyd meddwl;
- Yr Athro Thapar yw cyd-olygydd y gwerslyfr blaenllaw a ddefnyddir gan ymarferwyr sy'n hyfforddi i arbenigo mewn seiciatreg plant a'r glasoed; Rutter's Child and Adolescent Psychiatry.
Rydym yn cyfrannu at ymgysylltu â'r cyhoedd drwy Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol, ein partneriaeth â'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a thrwy gymryd rhan yn nigwyddiad Gemau’r Ymennydd blynyddol Prifysgol Caerdydd.
Ein tîm

Yr Athro Anita Thapar
Clinical Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- thapar@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8478

Yr Athro Stephan Collishaw
Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- collishaws@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8436

Yr Athro Frances Rice
Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- ricef2@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8384

Dr Ajay Thapar
Psychiatrist, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- thaparak@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8490

Dr Rhys Bevan-Jones
Uwch Gymrawd Ymchwil Clinigol, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol
- Siarad Cymraeg
- bevanjonesr1@caerdydd.ac.uk
- +44 29206 88451

Dr Lucy Riglin
Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- riglinl@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8419

Dr Joanne Doherty
Clinical Research Fellow, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- dohertyjl@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8455

Dr Olga Eyre
Clinical Research Fellow, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- eyreo2@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8452

Bryony Weavers
Research Assistant, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- weaversb1@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8318

Alice Stephens
Research Assistant, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- stephensa7@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8389

Emma Meilak
Public Involvement Officer / Administrative Officer, Wolfson Centre for Young People's Mental Health
- meilake@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8479
Cydweithwyr mewnol

Yr Athro Simon Murphy
Athro Gwella Iechyd Cyhoeddus, Prif Archwiliwr (PI) ar gyfer PHIRN a Chyd-Gyfarwyddwr Caerdydd ar gyfer DECIPHer
- murphys7@caerdydd.ac.uk
- +44 29208 79144

Yr Athro Michael O'Donovan
Deputy Director, Institute of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences. Deputy Director, MRC Centre for Neuropsychiatric Genetics & Genomics
- odonovanmc@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8320

Richard Anney
Senior Lecturer in Bioinformatics, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- anneyr@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 208 8390

Marianne van den Bree
Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- vandenbreemb@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8433
Cydweithredwyr allanol
- Professor Gordon Harold (University of Sussex)
- Dr Ruth Sellers (University of Sussex)
- Professor Ann John (Swansea University)
- Professor Rudolph Uher (Dalhousie University)
- Professor George Davey Smith (University of Bristol)
- Dr Evie Stergiakouli (University of Bristol)
- Dr Beate Leppert (University of Bristol)
- Professor Kate Tilling (University of Bristol)
- Dr Gemma Hammerton (University of Bristol)
- Dr Jon Heron (University of Bristol)
Listen to Professor Anita Thapar on the Piece of Mind podcast as she discusses the latest research in ADHD.