Y 13eg Ysgol Haf flynyddol mewn Ymchwil Anhwylderau Ymennydd oedd y digwyddiad mawr cyntaf ers ei lansio fel Canolfan Prifysgol Caerdydd yn gynharach eleni.
Ddydd Mercher yr 28ain o Fehefin croesawodd CNGG westeion i Adeilad Hadyn Ellis i ddathlu ei lansio fel Canolfan Prifysgol Caerdydd ar ôl deng mlynedd o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) ac i rannu eu cynlluniau ar gyfer y deng mlynedd nesaf o ymchwil.