Ewch i’r prif gynnwys

Modelau a Dulliau

Neurons under a microscope

Nod ein gwaith yw datgelu'r mecanweithiau biolegol y mae genynnau a digwyddiadau bywyd yn manteisio arnynt i ddylanwadu ar swyddogaeth ac ymddygiad ein hymennydd mewn iechyd a chlefyd.

Pam modelau?

Mantais allweddol defnyddio systemau model yw y gallwn symleiddio ac ynysu cydrannau penodol o brosesau biolegol i'n helpu i ddeall sut mae gweithrediad ac ymddygiad yr ymennydd yn gweithio orau mewn iechyd a sut y gall y prosesau hyn fynd o chwith mewn cyflwr o glefyd.

O foleciwlau i organebau

Rydym yn ymchwilio i swyddogaeth yr ymennydd ar lefel celloedd, cylchedau ac ymddygiad anifeiliaid. Gall ymagweddau biocemegol a moleciwlaidd mewn celloedd fod yn bwysig iawn wrth gamu oddi ar y sylfaen gyntaf lle nad oes fawr ddim gwybodaeth ar gael am swyddogaeth fiolegol moleciwl, er enghraifft protein a allai fod wedi cael ei gysylltu â chlefyd yr ymennydd drwy ddulliau megis sgrinio genetig a gyflawnir gan gydweithwyr yn CNGG.

Rydym hefyd yn manteisio ar y datblygiadau cyflym mewn gwybodaeth am fôn-gelloedd i greu modelau cellog sy'n berthnasol i glefydau - “clefydau’r ymennydd mewn dysgl” - y gallwn wedyn eu defnyddio i ddadansoddi'r prosesau biolegol sy'n mynd o chwith yn y clefyd.

Rydym yn ategu ein gwaith cellog gydag astudiaethau o weithrediad yr ymennydd mewn organebau model sy'n ein galluogi i weld sut mae ymennydd cyfan yn gweithio ar draws sawl lefel o ddadansoddi, gan gynnwys:

  • mecanweithiau niwrogemegol sy'n ymwneud â chyfathrebu celloedd yr ymennydd
  • newidiadau plastig yn swyddogaeth yr ymennydd oherwydd geneteg a phrofiadau bywyd a
  • gweithgaredd trydanol cydgysylltiedig rhwng gwahanol gylchedau’r ymennydd sy'n sail i broses ymddygiadol gymhleth megis canfyddiad, dysgu a chof.

Rydym yn perfformio'r astudiaethau hyn gydag amrywiaeth o gydweithwyr ar draws Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Biowyddorau, Seicoleg a'r Grŵp Geneteg Ymddygiadol, a chydweithwyr allanol ym Mryste, Caergrawnt a Chaerfaddon.

Trosi

Rydym yn trosi’r wybodaeth a geir mewn systemau model yn ôl i fodau dynol er mwyn deall mecanweithiau pathogenig yn well a llywio datblygiad therapïau gwell.

Mae systemau model yn arbennig o addas o ran darganfod cyffuriau cyn-glinigol. Maent yn ein galluogi i archwilio potensial therapiwtig cyffuriau sy'n targedu mecanweithiau sy'n berthnasol i glefydau. Er enghraifft, ar hyn o bryd rydym yn asesu effeithiolrwydd cyfansoddion cyffur sy'n targedu prosesau biolegol (derbynyddion “AMPA” a “GABAA”) a amlygwyd gan y sgrin genetig ddiweddaraf ar gyfer sgitsoffrenia a gafwyd gan gydweithwyr yn CNGG.

Arweinwyr thema

Yr Athro Lawrence Wilkinson

Yr Athro Lawrence Wilkinson

Scientific Director, Neuroscience and Mental Health Research Institute.

Email
wilkinsonl@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 2068 8461
Yr Athro Derek Blake

Yr Athro Derek Blake

Professor of Neuroscience, MRC Centre for Neuropsychiatric Genetics & Genomics

Email
blakedj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8468