Current projects
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Learn more about our current research projects from across our research themes and with our collaborators around the world.
Takeda

Cardiff University has formed a partnership with Takeda Pharmaceutical Company Limited (Takeda) for a drug discovery collaboration to identify new approaches for treating schizophrenia and other psychiatric disorders.
The collaboration will combine the University's large scale genomic data and world-class expertise in psychiatric genetics, genomics, clinical and basic neuroscience with Takeda’s extensive drug discovery and clinical development capabilities.
The collaboration will allow Takeda access to world-leading biological psychiatry research and the related infrastructure across the University, including the
Enquiries
For more information regarding the Takeda partnership, please contact:

Yr Athro Lawrence Wilkinson
Scientific Director, Neuroscience and Mental Health Research Institute.
- wilkinsonl@caerdydd.ac.uk
- +44(0) 29 2068 8461
Anhwylderau niwroddatblygiadol: beth sy'n digwydd pan fydd plant yn tyfu a pham?
Bydd anhwylderau niwroddatblygiadol megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn effeithio ar o leiaf un o bob 10 o blant.
Roedd tyb y bydden nhw’n dechrau yn y blynyddoedd cynnar ac yn pallu erbyn y glasoed. Erbyn hyn, fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod eu bod yn effeithio ar oedolion hefyd, er nad oes llawer yn hysbys am hynny eto. I ddechrau, rhaid gwybod beth sy'n ‘arferol’ neu'n nodweddiadol.
Dull yr ymchwil
Am y tro cyntaf, byddwn ni’n ystyried problemau niwroddatblygiadol ymhlith tua 8,000 o oedolion 26 oed sydd wedi’u hasesu yn rheolaidd ers iddyn nhw fod yn y groth. At hynny, byddwn ni’n asesu gorbryder, iselder ac anniddigrwydd yn ôl yr un meini prawf a ddefnyddiwyd yn ystod plentyndod a llencyndod.
Byddwn ni'n disgrifio problemau niwroddatblygiadol pobl 26 oed, yn ogystal â nodi lle mae gorbryder, iselder a phroblemau eraill iechyd y meddwl yr un pryd. Byddwn ni’n dysgu sut mae problemau niwroddatblygiadol yn ymwneud â phroffiliau niwroddatblygiadol plant a’r glasoed ac yn gweithio gyda charfannau poblogaethau gwledydd eraill i ofalu bod ein canfyddiadau’n gadarn.
Byddwn ni’n asesu faint mae profiadau’r blynyddoedd cynnar (yn y groth ac wedyn) yn effeithio ar iechyd niwroddatblygiadol gydol oes (hyd at 26 oed, o leiaf) hefyd, trwy amryw ddulliau nodi achosion megis Mendelian Randomization.
Byddwn ni’n ystyried effaith genynnau, hefyd. Trwy astudio gwahanol boblogaethau, bydd modd cryfhau'r math hwn o ymchwil yn rhyngwladol. Wellcome Trust sy’n noddi’r gwaith trwy gronfa er cydweithio.
Deilliannau arfaethedig
Yn gyntaf, byddwn ni'n disgrifio hanes naturiol anhwylderau niwroddatblygiadol o blentyndod i fywyd oedolyn (rhwng 4 a 26 oed) mewn carfan yn y deyrnas hon lle mae pobl wedi’u hasesu sawl gwaith ar amryw oedrannau.
Wedyn, byddwn ni’n edrych ar effeithiau dros y tymor hwy gan gynnwys cysylltiadau ag iselder.
Yn olaf, byddwn ni'n defnyddio dulliau epidemiolegol newydd i weld pa beryglon yn y blynyddoedd cynnar a allai arwain at broblemau.
Tîm ymchwil

Dr Lucy Riglin
Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- riglinl@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8419

Yr Athro Anita Thapar
Clinical Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- thapar@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8478
Rydym yn cydweithio ar y prosiect hwn gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bryste, gan gynnwys:
Cyd-ymchwilwyr
- Professor George Davey Smith
- Dr Evie Stergiakouli
- Professor Kate Tilling
Ymchwilwyr ôl-ddoethurol
- Dr Beate Leppert

Mae’r Prosiect Ymchwil Gydweithredol i Gydafiachedd ar draws y Rhychwant Oes (LINC) yn astudio cydafiachedd corfforol a meddyliol ar draws y rhychwant oes.
Mae cydafiachedd yn golygu bod gan unigolyn ddau neu fwy o gyflyrau iechyd cronig ar yr un pryd. Mae gan unigolion o’r fath anghenion cymhleth sy’n anodd ac yn ddrud eu trin. O'r herwydd, mae cydafiachedd yn flaenoriaeth i lawer o wledydd.
Mae dioddef o gyflwr corfforol ar y cyd â chyflwr iechyd meddwl yn rhywbeth cyffredin.
Rhywbeth arbennig o gyffredin yw dioddef o iselder a gorbryder ar y cyd â chlefyd cardiofasgwlaidd, ond nid ydym yn deall yn iawn sut a pham mae’r cyfuniad hwn o gyflyrau mor gyffredin.
Mae LINC yn ceisio helpu i ateb y cwestiynau hyn.
Ein hymchwil ni
Gall LINC wneud hyn gan ei fod yn brosiect cydweithredol. Mae'r prosiect yn elwa o arbenigedd ym meysydd meddygaeth ac ymchwil, a hynny mewn sawl sefydliad ymchwil. Mae hefyd yn gallu gweld data arhydol manwl a fydd yn ei helpu i ymchwilio i’r canlynol:
- Sut mae iselder a gorbryder a chlefyd cardiofasgwlaidd yn datblygu yn yr un person ar wahanol gamau bywyd (h.y. plentyndod, oedolaeth ifanc, oedolaeth hwyr)?
- Beth yw’r ffactorau risg genetig, niwroddatblygiadol ac amgylcheddol ar gyfer datblygu iselder a gorbryder a chlefyd cardiofasgwlaidd?
- Pa bethau sy’n cael effaith ar risg rhywiau a grwpiau ethnig gwahanol o ddatblygu iselder a gorbryder a chlefyd cardiofasgwlaidd, a sut?
Bydd LINC yn gwneud ei ymchwil ar y cyd â rhanddeiliaid ac yn gweithio’n agos gyda’r cyhoedd a grwpiau o gleifion i rannu ei ganlyniadau a dylanwadu ar bolisïau. Nod sylfaenol LINC yw hwyluso’r gwaith o ymyrryd yn gynnar mewn ffordd sydd wedi’i thargedu er mwyn lleihau’r risg o gydafiachedd ymhlith unigolion.
Prif ymchwilydd:

Marianne van den Bree
Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- vandenbreemb@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8433
Aelod-sefydliadau cydweithredol a chyd-ymchwilwyr:
Prifysgol Caerdydd (Ysgol Meddygaeth ac Ysgol Busnes Caerdydd)

Yr Athro James Walters
Clinical Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- waltersjt@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8434
Prifsygol Bristol
Yr Athro John Macleod
Yr Athro Nicholas Timpson
Dr Rupert Payne
Dr Julie Clayton
Yr Athro Golam Khandaker
Prifysgol Exeter
Yr Athro Ines Barroso
Prifysgol Leeds (Ysgol Seicoleg)
Yr Athro Mark Mon-Williams
Prifysgol Llundain Brenhines Mary
Yr Athro David van Heel
Dr Sarah Viner
Wellcome Trust Sanger Institute
Dr Hilary Martin
Ysbyty Seiciatrig Prifddinas-Ranbarth Denmarc
Yr Athro Thomas Werge
Dr Andrés Ingason
We have active research projects in psychosis and major affective disorders, developmental disorders and neurodegenerative disorders.