Ewch i’r prif gynnwys
Dr Rhys Bevan-Jones

Dr Rhys Bevan-Jones

Uwch Gymrawd Ymchwil Clinigol, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol

Email
bevanjonesr1@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 29206 88451
Campuses
2.27, Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ
Siarad Cymraeg

Trosolwg

Rwyf yn seiciatrydd ac ymchwilydd gyda’r Adran Plant a Phobl Ifanc, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol.

Rwyf â diddordeb mewn ymchwil a gwaith clinigol o blentyndod i fywyd oedolyn, ac anawsterau iechyd meddwl yn yr adeg drawsnewidiol allweddol yma. Rwyf wedi fy hyfforddi mewn seiciatreg ar gyfer plant/pobl ifanc ac oedolion.

Rwyf hefyd a diddordeb yn rôl y cyfryngau gweledol a digidol yn y byd iechyd meddwl, ac wedi astudio darlunio a dylunio graffeg yn Central St Martins a Phrifysgol Kingston (Llundain).

Yn 2018, fe dderbyniais wobr o Gymrodoriaeth Ôl-Ddoethuriaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (SCYI) ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (YIGC) – i ddatblygu yn bellach rhaglen ddigidol ar gyfer iselder ym mhobl ifanc ac i arwain treial ohoni. Cafodd y rhaglen ei ddatblygu yn wreiddiol fel rhan o Gymrodoriaeth Ymchwil Doethurol SCYI/YIGC (2013-2017).

Rwy'n gysylltiedig â Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Rwyf hefyd yn gweithio ar brosiectau megis yr astudiaeth i ragfynegi iselder ym mhobl ifanc (‘EPAD study’), astudiaeth PAMAd i werthuso gwasanaethau iechyd meddwl yn Georgia, rhwydwaith iechyd meddwl pobl ifanc TRIUMPH, a chyd-ddatblygiad adnoddau digidol ADHD. Rwy’n cyd-arwain addysg seiciatreg plant a phobl ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cyhoeddiadau

2023

2022

2021

2020

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

Supervision

Past projects