Ewch i’r prif gynnwys

Electroffisioleg gwybyddol

A female participant engages in a cognitive task on a computer with electrodes attached to her head. A male participant connects the ends of the electrodes to a machine.
Our EEG research investigates themes such as episodic memory, developmental science, decision making and more.

Defnyddiwn electroenceffalogram (EEG) i ateb nifer o gwestiynau ynghylch gwybyddiaeth ymhlith gwirfoddolwyr iach a grwpiau o gleifion.

Un o’r prif feysydd ymchwil y canolbwyntiwn arno yw cof cyfnodol, sef cofio digwyddiadau o hanes personol unigolion. Mae swm enfawr o wybodaeth wedi'i storio yn ein cof ac mae sefyllfaoedd gwahanol yn gofyn am adalw dewisol a strategol o elfennau penodol o wybodaeth gyd-destunol sy'n berthnasol i'r dasg wrth law. Mae ein hymchwil yn archwilio'r ffyrdd y mae adalw episodig yn cael ei gyfyngu, ei gyfarwyddo a’i reoli. Mae EEG yn arbennig o ddefnyddiol yn hyn o beth gan fod datrysiad amserol amser real y dechneg yn caniatáu datgysylltu prosesau sy'n digwydd pan mae unigolyn yn paratoi ar gyfer adalw gwybodaeth o’r cof, oddi wrth y rhai sy'n digwydd yn ystod ymgais i adalw, a'r rhai sy'n digwydd ar ôl adalw. Mae’r gwaith hwn hefyd wedi rhoi sylw i wahaniaethau unigol ac archwilio ffactorau megis gallu’r cof wrth weithio.

Mae maes allweddol arall yn ein hymchwil yn canolbwyntio ar wyddoniaeth ddatblygiadol, gan ddefnyddio dull cydweithredol sy'n cynnwys Canolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS). Nod yr ymchwil hwn yw deall sut mae profiadau cynnar yn llunio datblygiad niwral trwy ddigwyddiadau niweidiol yn ogystal ag ymddygiadau teuluol nodweddiadol, a sut mae'r profiadau hynny'n hyrwyddo datblygiad addasol ac iach. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae babanod yn dysgu gwahaniaethu rhwng yr emosiynau newydd y maent yn eu harsylwi a'u profi bob diwrnod, a gall defnyddio tawelwr gael mwy o effaith ar y ffordd y mae'r mynegiadau hynny'n cael eu dehongli gan y baban. Mae'r prosiectau ymchwil yn archwilio datblygiad empathi a dealltwriaeth emosiynol mewn babanod sy'n defnyddio neu nad ydynt yn defnyddio tawelwyr.

An small baby has electrodes attached to its head and views images on a computer while its mother holds it in her arms
An infant is presented with imagery while brain activity is recorded using EEG equipment.

Mae ein hymchwil EEG yn canolbwyntio hefyd ar wneud penderfyniadau. Mae'r prosiectau hyn yn ymchwilio i gwestiynau ymchwil ym maes sicrwydd canlyniadau - er enghraifft, a yw tebygolrwydd o wobr absoliwt yn dylanwadu ar ein dewisiadau mewn ffordd ystyrlon? Wrth gyfuno dulliau modelu cyfrifiadurol a dulliau dysgu peiriant â data EEG, mae ein hymchwilwyr yn ceisio deall sut mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth cyn, yn ystod ac ar ôl gweithredu pendant, a sut y gall sicrwydd o dderbyn gwobr effeithio ar amgodio gwybodaeth o'r fath.

Two graphs showing the difference in brain activity between participants who knew they were getting a reward at the end of a task and participants who were not sure if they would get a reward at the end of a task
two heads show different brain activity between participants in different contexts
This figure shows how brain activities vary across different conditions of uncertainty.

Mae CUBRIC yn hyrwyddo dull aml-foddol o ddeall problemau ymchwil, felly defnyddiwn EEG ar yr un pryd â thechnegau eraill megis fMRI. Mae gennym hefyd arbenigedd o ran defnyddio technegau dadansoddi datblygedig â data EEG, sy’n ein galluogi i adnabod patrymau EEG epileptig, yn awtomatig, er enghraifft.