Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau ôl-raddedig

Mae ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig yn cynnig cyfle i drochi eich hun mewn amgylchedd deinamig, amlddisgyblaethol gydag astudiaeth yr ymennydd a'r cyflyrau niwrolegol a seiciatrig cysylltiedig wrth ei wraidd.

Gyda staff a myfyrwyr o dros 30 o wledydd gwahanol, bydd ein canolfan gwirioneddol ryngwladol, yn eich amlygu i ystod amrywiol o gefndiroedd academaidd ac arbenigedd niwroddelweddu, gan ddarparu dull gweithredu cynhwysfawr i faes niwrowyddoniaeth.

Wedi ei ategu gan ei synnwyr cryf o gymuned, rydym yn ganolfan ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ryngddisgyblaethol a chynhyrchydd ymchwil niwroddelweddu o'r radd flaenaf o ganlyniad.

Gwnewch gais i un o'n rhaglenni ymchwil ôl-raddedig i fod yn rhan o'n gwaith arloesol mewn niwrowyddoniaeth.

Cyfleoedd PhD

Rydym yn cynnig amgylchedd rhagorol i gynnal ymchwil niwrowyddoniaeth, gyda’n hamrywiaeth eang o gyfleusterau delweddu dan yr un to.