Ewch i’r prif gynnwys

Erthyglau gwerth cyhoeddus

Ni yw'r ysgol busnes gwerth cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.

Rwy'n sefyll dros_y genhedlaeth nesaf

Rwy'n sefyll dros_y genhedlaeth nesaf

Mae angen i ni ddychmygu sut gall y byd fod yn wahanol. Rydym yn ystyried materion o sawl safbwynt ac yn herio’r sefyllfa sydd ohoni. Fel arfer, nid yw ysgolion busnes yn eglur am gael effaith fawr ar gymdeithas, ond dyna’n union rydym ni’n ei wneud.

Rwy'n sefyll dros_gyfrifoldeb

Rwy'n sefyll dros_gyfrifoldeb

Heddiw, rydym yn wynebu angen dybryd am newid ar lefel fyd-eang. Fodd bynnag, y lefel leol, unigol yw'r un y gallwn ni gyfrannu iddi yn ein ffordd gadarnhaol ein hunain. Rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i wneud hyn. Mae cysylltu pethau byd-eang â phethau lleol yn ein helpu i ddeall sut.

Rwy’n sefyll dros_ddiogelwch yn y gwaith

Rwy’n sefyll dros_ddiogelwch yn y gwaith

Dylai gweithle fod yn lle diogel. Mae angen i bobl ddod i'r gwaith a gallu defnyddio eu sgiliau, boed hynny'n golygu eu creadigrwydd, eu harloesedd, eu dadansoddi neu eu data. Mae angen llawer o wahanol fathau o bobl arnom ac iddynt deimlo'n ddiogel er mwyn llwyddo.

Rwy'n sefyll dros_gynhwysiant ariannol

Rwy'n sefyll dros_gynhwysiant ariannol

Mae anghydraddoldeb economaidd yn cynyddu ledled y byd. Gallai gwella lefelau llythrennedd ariannol fod yn allweddol i greu cymdeithas decach a mwy cynhwysol.

Rwy'n sefyll dros_gydraddoldeb rhywedd

Rwy'n sefyll dros_gydraddoldeb rhywedd

Nid dim ond i fenywod mewn busnes mae cydraddoldeb rhywedd yn bwysig. Mae cwmnïau sydd ag arweinyddiaeth gynhwysol ac amrywiol hefyd yn gwneud penderfyniadau gwell. Maen nhw'n fwy llwyddiannus ac yn helpu i adeiladu cymdeithas decach a gwell.

Dwi’n sefyll dros_ymddiriedaeth

Dwi’n sefyll dros_ymddiriedaeth

Mae angen i ni herio safbwyntiau traddodiadol ar sut i gynnal a gwerthuso gweithgareddau busnes. Fel addysgwr, rwy'n ymdrechu i sicrhau bod ein myfyrwyr yn dechrau o safbwynt lle mae moeseg, uniondeb ac ymddiriedaeth yn cael eu hystyried yn adnoddau hanfodol.

Dwi’n sefyll dros_gynaliadwyedd

Dwi’n sefyll dros_gynaliadwyedd

Y tu allan i ymyrraeth y llywodraeth, mae busnesau‘n chwarae rhan bwysig yn ein gallu i warchod yr amgylchedd. Rydym yn dechrau gweld cynnydd yn yr arferion busnes ecogyfeillgar sy’n cael eu mabwysiadu ac yng ngalw defnyddwyr am gynnyrch cynaliadwy, sy'n profi bod gennym y gallu i symud tuag at gyflawni ein nodau hinsawdd dybryd.

Dwi’n sefyll dros_greadigrwydd

Dwi’n sefyll dros_greadigrwydd

Mae creadigrwydd yn elfen allweddol wrth ddatrys problemau. Trwy greadigrwydd y gallwn fagu hyder, herio confensiwn, a dod o hyd i ffyrdd o wneud pethau'n wahanol.

Dwi’n sefyll dros_gyfle cyfartal

Dwi’n sefyll dros_gyfle cyfartal

Rwy'n dysgu fy myfyrwyr sut mae ymgorffori cyfle cyfartal mewn busnesau yn hyrwyddo byd tecach i bawb. Rwyf hefyd yn eu hannog i herio safbwyntiau prif ffrwd ac archwilio llawer o onglau cyn ffurfio barn.