Ewch i’r prif gynnwys

Rwy’n sefyll dros_ddiogelwch yn y gwaith

A photo of Bethany Brown

Rhaid i weithle fod yn fan lle gall pobl ddefnyddio eu sgiliau yn hyderus, beth bynnag yw'r rheini.

Mae diogelwch seicolegol yn beth mewnol ac allanol, ac mae'n rhaid i fusnesau chwarae rôl i leihau stigma, codi ymwybyddiaeth a defnyddio eu pwerau i wneud y byd yn lle gwell.

Fel menyw mewn busnes, fe wn o lygad y ffynnon fod dewrder yn golygu twf, ac y gall bod yn ddewr olygu gweithredoedd bach neu gamau enfawr.

Mae diogelwch yn golygu llawer o bethau, a gall darparu mannau gweithio diogel chwarae rhan wrth fynd i'r afael â llawer o broblemau, o drais yn erbyn menywod i hunanladdiad ac iechyd meddwl. Mae'r materion hyn yn fyd-eang a hefyd yn agos iawn atom ni.

Mae diogelwch a charedigrwydd yn arwain at arloesi ac mae'n galonogol gweld cenhedlaeth newydd o arweinwyr sy'n rhoi gwerth ar empathi. Nid ydym bellach yn ystyried caredigrwydd yn wendid ac mae hynny'n gwella diogelwch i bawb.

Bethany Brown, Rheolaeth Busnes (MSc 2021)