Ewch i’r prif gynnwys

Rwy'n sefyll dros_gynhwysiant ariannol

Photo of Arman

Ledled y byd mae miliynau o bobl heb fynediad at gyfrifon banc a marchnadoedd rhyngwladol.

Mae rhywun nad yw'n deall cyllid yn dda neu sy'n profi trafferthion ariannol yn annhebygol o geisio cyngor sy'n gymhleth ac yn aml yn ddrud.

Mae gwella llythrennedd ariannol yn helpu pobl ar bob lefel o incwm i gael gwell dealltwriaeth o sut mae cyllid yn gweithio, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus, manteisio ar fudd-daliadau, a defnydido cyfleoedd i fuddsoddi.

Pan fydd unigolion yn cael eu cefnogi gydag addysg, mynediad at dechnoleg a dealltwriaeth o systemau ariannol, mae eu penderfyniadau cadarn yn cael effaith gadarnhaol ar eu haelwydydd ac yn eu tro yn rhoi hwb i’r cymunedau lle maen nhw'n byw.

Mae'n gyfrifoldeb cyfunol ar sefydliadau academaidd, busnesau a llywodraethau i sicrhau bod addysg ariannol a mynediad at gymorth yn cael eu dosbarthu’n gyfartal.

Gellir cyflawni cynhwysiant ariannol trwy fynediad cyfartal a theg at addysg ariannol a chyfleoedd i bawb.

Yr Athro Arman Eshraghi

Professor of Finance and Investment, Deputy Head of Section for Research, Impact and Innovation

EmailEbost:
eshraghia@cardiff.ac.uk