Ewch i’r prif gynnwys

Dwi’n sefyll dros_greadigrwydd

Katie Lloyd

Mae anghydraddoldeb yn cael effaith negyddol sylweddol ar fusnes.

Mae'n bodoli ym mhobman ac mae’n fwy na dim ond anghysondebau cyfoeth; mae hefyd yn ymwneud â rhagfarn rhywedd a hiliaeth sy'n golygu nad yw pobl yn cael cyfle i archwilio eu creadigrwydd yn rhydd ac i ffynnu.

Fel menyw yn y diwydiant ffasiwn, dwi wedi teimlo effaith anghydraddoldeb yn uniongyrchol. Gan fod ffasiwn yn ddiwydiant sy'n cael ei yrru gan fenywod, mae'n dioddef o syniad hen-ffasiwn fod ffasiwn yn ddisylwedd, ond mae'n ddiwydiant byd-eang, hynod ddylanwadol sydd werth triliwn o ddoleri.

Dwi wedi cael fy meirniadu am fy rhywedd a cholli pitshys pan mai fi oedd y gorau yn yr ystafell. Dyma pam dwi’n rhoi gwerth enfawr ar barch a chreadigrwydd. Mae'n bwysig fi fod pawb yn teimlo'n ddiogel i fynegi eu hunain.

Mae ffasiwn wastad wedi bod yn rhan fawr o’m bywyd ac mae wedi dangos i fi mai drwy greadigrwydd yr ydym yn magu hyder, dod o hyd i gymhelliant, datrys problemau, hyrwyddo newid a dod o hyd i ffyrdd o wneud pethau'n wahanol.

Katie Lloyd, myfyrwraig ymchwil