Ewch i’r prif gynnwys

Dwi’n sefyll dros_ymddiriedaeth

Photo of Svetlana Mira in black and white

Mae addysg uwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu arweinwyr y dyfodol.

Fel addysgwyr, dylen ni helpu ein myfyrwyr i ddod yn bobl sy'n deall bod yn rhaid i benderfyniadau gynnwys gwerth cyhoeddus.

Mae angen Prif Swyddogion Gweithredol arnom sydd â'r grym i roi effaith gadarnhaol ar yr un lefel ag elw.

Dylai busnesau gael eu rhedeg ag ymddiriedaeth a gonestrwydd, oherwydd pan mai elw yw'r mesur cyntaf neu'r unig fesur o lwyddiant, gall fod yn drychinebus. Mae argyfwng ariannol 2008 yn enghraifft o'r hyn sy'n digwydd pan nad oes gonestrwydd mewn diwydiant.

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, rydym yn defnyddio enghreifftiau o’r byd go iawn i ddangos sut mae'r gwerthoedd hyn yn rhan annatod o fusnesau llwyddiannus.

Mae fy myfyrwyr yn dysgu sut mae byd busnes yn esblygu; maen nhw'n deall nodau traddodiadol busnes, ond ochr yn ochr â hynny maen nhw'n gwerthfawrogi’r pwysigrwydd o greu gwerth i bawb.

Credaf fod ymddiriedaeth yn rhagflaenu llwyddiant, a hebddo, bydd busnesau'n methu.

Dr Svetlana Mira

Reader in Finance

EmailEbost:
miras@cardiff.ac.uk