Ewch i’r prif gynnwys

Rwy'n sefyll dros_y genhedlaeth nesaf

Rachel Ashworth - a lady with brown hair smiling

Fel unrhyw ysgol busnes arall rydym ni’n poeni am werth cyfranddalwyr, cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Ond rydym ni'n canolbwyntio lawn gymaint ar greu cyfoeth a chydraddoldeb yn yr economi ac anghenion cymdeithasol ehangach.

Ac rydym ni'n dechrau gweld y sector yn newid er gwell - sy'n beth da.

Ym Mhrifysgol Caerdydd rydym ni'n creu man lle caiff ein myfyrwyr eu hannog i herio, cadw meddwl agored a chael golwg eang ar y byd.

Mae ein myfyrwyr yn datblygu lefel uchel o wybodaeth a sgiliau yn eu hymchwil a'u hastudiaethau, ond mae'n ymwneud â beth arall sydd ganddynt.

Mae ein myfyrwyr yn gadael gyda'r hyder i ysgogi newid cadarnhaol yn y byd newydd hwn. Maen nhw'n gadael gydag ymdeimlad ehangach o bwrpas economaidd a dydyn nhw ddim wedi'u cloi i mewn i hen systemau a hen ffyrdd o feddwl.

Hon yw’r genhedlaeth sy’n mynd i unioni pethau.

Yr Athro Rachel Ashworth

Deon Ysgol Busnes Caerdydd

EmailEbost:
ashworthre@cardiff.ac.uk