Cylchgrawn i gyn-fyfyrwyr
Mae ein cylchgrawn blynyddol i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Cyswllt Caerdydd, yn cynnwys newyddion am y brifysgol, cyfweliadau â chyn-fyfyrwyr, ac erthyglau am yr ymchwil ddiweddaraf sy’n digwydd yng Nghaerdydd.
Gallwch hefyd glywed am y cyn-fyfyrwyr anhygoel sy'n cefnogi'r genhedlaeth nesaf o raddedigion Caerdydd ac yn bwrw ymlaen â darganfyddiadau ymchwil. Os oes gennych syniad am stori neu newyddion yr hoffech eu rhannu, e-bostiwch alumni@caerdydd.ac.uk.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion cyn-fyfyrwyr.
Clywch am newyddion cyn-fyfyrwyr, cyfleoedd, cynigion, a gwahoddiadau i ddigwyddiadau drwy e-bost neu gylchgrawn blynyddol.