Aduniadau
Mae trefnu aduniad cyn-fyfyrwyr yn ffordd wych o ailgysylltu â hen ffrindiau.
P'un a ydych chi'n cynllunio aduniad ar raddfa lawn o'ch grŵp blwyddyn, cinio bach ar gyfer y clwb gwyddbwyll neu ddigwyddiad rhwydweithio ar gyfer gwyddonwyr cyfrifiadurol, byddem wrth ein bodd yn clywed am eich cynlluniau.
Dyma rai awgrymiadau a dolenni defnyddiol ar gyfer trefnu eich aduniad:
- dechrau cyn gynted â phosibl (o leiaf 6 mis ymlaen llaw)
- ffurfio pwyllgor bach a rhannu tasgau
- pwy hoffech chi ei wahodd? Cyn-fyfyrwyr o grŵp blwyddyn, cwrs, clwb, cymdeithas neu neuadd breswyl benodol?
- pa fath o ddigwyddiad hoffech chi ei drefnu? Cinio, cinio nos, neu gyfarfod anffurfiol mewn tafarn?
- dylid ystyried a ydych am gynnwys partneriaid a theuluoedd?
- ble fyddwch yn cynnal y digwyddiad? Gellir gweld manylion cyfleusterau'r Brifysgol a gwestai preifat ac ati isod
- ystyriwch sut ydych chi'n mynd i ariannu'r digwyddiad; ydych chi'n mynd i werthu tocynnau?
- a fydd yn ddigwyddiad untro neu a ydych chi'n gobeithio cynnal digwyddiadau eraill os bydd yn mynd yn dda?
- ydych chi'n hapus i'ch manylion cyswllt gael eu datgelu i gyn-fyfyrwyr, fel y gallant gysylltu'n uniongyrchol?
- sut fyddwch chi'n rheoli eich rhestr westeion? Mae Ticket Source yn blatfform ar-lein am ddim a all eich helpu i hyrwyddo'ch digwyddiad, rheoli tocynnau a threfnu rhestrau gwesteion
Sut y gall y tîm Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr helpu
Dod o hyd i gyd-gyn-fyfyrwyr
Mae gan y tîm Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr gronfa ddata o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd wedi cadw mewn cysylltiad â ni. Ni allwn rannu unrhyw fanylion cyswllt oherwydd rheolau diogelu data, ond gallwn anfon e-bost at bobl ar eich rhan, cyn belled â bod gennym eu caniatâd. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Cynllunio eich gweithgareddau
Os hoffech drefnu taith o amgylch eich hen Ysgol, rhowch wybod i ni a byddwn yn helpu i'w threfnu. Mae llawer o atyniadau a gweithgareddau eraill y gallwch eu gwneud tra byddwch yng Nghaerdydd.
Lleoliadau ac arlwyo
Gweler gwasanaeth cynadledda'r Brifysgol am fanylion ystafelloedd darlithio, lleoliadau cinio a mannau cyfarfod sydd ar gael i'w llogi.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn falch iawn o groesawu cyn-fyfyrwyr yn ôl a gall hefyd ddarparu ciniawau a byffledi. Cysylltwch â SUEvents@caerdydd.ac.uk
Llety
Mae dewis eang o lety yng Nghaerdydd. Yn ystod gwyliau, mae rhai Neuaddau Preswyl y Brifysgol ar gael i'w llogi.
Hyrwyddo eich aduniad
Mae'n syniad gwych creu digwyddiad Facebook ar gyfer eich aduniad – mae'n hawdd ei rannu a gall helpu i danio cyffro ac annog mwy o bobl i ddod. Os ydych chi'n hyrwyddo trwy Facebook, tagiwch @CardiffUniAlumni yn eich postiadau neu @CardiffAlumni ar X (Twitter gynt).
Pob lwc gyda'ch digwyddiad. Cofiwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r tîm Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr am eich cynlluniau, a dywedwch wrthym sut mae eich digwyddiad yn mynd.
Mae Canghennau a Grwpiau Cynfyfyrwyr yn gyfle i'n cynfyfyrwyr gysylltu, rhwydweithio, datblygu perthnasoedd cryf a rhannu cyfleoedd.