1 Mai 2024
Yn 2023, enillodd yr entrepreneur Grace Munyiri (MSc 2023) Dyfarniad Menter Gymdeithasol Gavin Davidson. Mae'r dyfarniad, sy’n cael ei ariannu gan y cyn-fyfyriwr Gavin Davidson (MBA 1992), yn helpu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n angerddol dros fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chreu newid cymdeithasol cadarnhaol. Dyfarnwyd £3,000 i Grace am ei gwaith yn rhan o Cacumator Mentorship, ar ôl dangos sgiliau busnes cryf a syniad gydag effaith gymdeithasol. Yma, mae'n dweud wrthon ni am ei chenhadaeth i wella mynediad at addysg, a sut mae'r cymorth a gafodd wedi ei helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair i bawb.