Chwaraeon ac antur

Nicole Cooke MBE
MBA 2015
Mae Nicole Cooke yn gyn rasiwr beiciau ffordd proffesiynol ac yn bencampwr Gemau'r Gymanwlad, y Gemau Olympaidd a Phencampwr Byd. Hi oedd y seiclwr cyntaf i ennill Pencampwriaeth y Byd Ras Ffordd a medal aur Olympaidd yr un flwyddyn.

Dr Rhys Jones
BSc 1999, MPhil 2003, PhD 2010
Mae Rhys Jones yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn arbenigwr ymlusgiaid, yn ymgynghorydd amgylcheddol, yn ymchwilydd ac yn gyflwynydd teledu a radio a enwebwyd ar gyfer BAFTA.
Ef yw Llysgennad Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Llysgennad Llyfrgelloedd Cymru a Hyrwyddwr darllen a Llysgennad Sgiliau i hyfforddiant ACT ochr yn ochr â Jonathan Davies MBE.

Dr Jamie Roberts
MBBCh 2013
Graddiodd Jamie o Ysgol Meddygaeth Caerdydd yn 2013. Yn yr wyth mlynedd cyn ennill ei radd, chwaraeodd Jamie rygbi i Gleision Caerdydd, yn ogystal â chymryd rhan ym Mhencampwriaethau'r Chwe Gwlad, Cwpanau'r Byd a theithiau rhyngwladol gyda thimau Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon.

Dr Gwyn Jones
MBBCh 2003
Mae Gwyn yn feddyg teulu, yn ogystal â dadansoddwr rygbi teledu a chyn gapten tîm rygbi'r undeb rhyngwladol Cymru.
Yn 2002, anrhydeddodd Cymdeithas Cyn-chwaraewyr Rhyngwladol Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Cymru Jones â Gwobr Dewrder.

Richard Parks
Llawfeddygaeth Ddeintyddol, 1997 - 2000, Anrh 2013
Mae Richard yn gyn-chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymru sydd wedi troi'n athletwr amgylchedd eithafol ac yn awdur.
Ef oedd y person cyntaf erioed i ddringo mynydd uchaf pob un o saith cyfandir y byd a sefyll ar y tri phegwn (Pegwn y Gogledd, Pegwn y De a chopa Everest) o fewn saith mis.
Rhys Williams (Ffisiotherapi, 1998 - 1999)
Llywydd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru a chyn asgellwr/cefnwr Gleision Cymru a Chaerdydd.
Nathan Cleverly (BSc 2010)
Paffiwr proffesiynol a chyn bencampwr pwysau trwm ysgafn y byd WBO.
Gareth Davies (BSc 1977, Anrh 1995)
Cyn chwaraewr rygbi undeb rhyngwladol Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru
Daniel Price (BSc 2009)
Gwyddonydd amgylcheddol a sylfaenydd ymgyrch ymwybyddiaeth Pole to Paris.
Nikita Salmon (BSc 2013)
Wingwalker ar gyfer tîm arddangos Breitling Wingwalking.
James Tomlinson (BA 2004)
Cricedwr sydd wedi chwarae i Swydd Hampshire, Wiltshire a Bwrdd Criced Hampshire.
Hallam Amos (BSc 2019)
Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymru sy'n chwarae i Gleision Caerdydd
Cysylltwch, tyfwch eich rhwydwaith proffesiynol, a chefnogwch fyfyrwyr a chynfyfyrwyr eraill. Cysylltu Caerdydd yw’r lle i ddod o hyd i gyfleoedd newydd a manteisio ar gymuned fyd-eang cynfyfyrwyr Caerdydd.