Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth

Photo of a man smiling

Huw Edwards

BA 1983, Hon 2003

Mae Huw yn newyddiadurwr, cyflwynydd a darlledwr Cymreig sydd wedi ennill gwobr BAFTA Mae e’n cyflwyno prif raglen newyddion y BBC. Mae e hefyd wedi cyflwyno nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol y BBC, yn cynnwys Priodas Frenhinol 2011 a Phenblwydd Diamwnt y Frenhines yn 2012. Cafodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol yn 2003.

Photo a dark-haired woman smiling

Susanna Reid

PGDip 1993, Hon 2015

Mae Susanna yn newyddiadurwraig ac yn gyflwynwraig teledu Hi oedd cyd-gyflwynydd rhaglen ‘BBC Breakfast’ tan 2014 cyn symud i gyflwyno rhaglen foreuol ITV, ‘Good Morning Britain’. Cyn hynny, gweithiodd yn BBC Radio Bristol, Radio 5 Live a BBC News 24. Cafodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol yn 2015.

Image of a man with dark hair wearing a navy shirt. He is standing against a blue background and smiling into the camera

Manish Bhasin

PGDip 1998

Mae Manish yn newyddiadurwr chwaraeon a chyflwynydd. Ef oedd prif gyflwynydd criced y BBC yn cyflwyno uchafbwyntiau Cyfres yr ‘Ashes’, Cwpan y Byd 2007 a Chwpan Criced y Byd 2011. Mae e hefyd wedi cyflwyno uchafbwyntiau’r Gynghrair Pêl-droed ar gyfer y BBC. Insert New Container

Photo of a man smiling

Jason Mohammad

PGDip 1997, Hon 2014

Ymunodd Jason â’r BBC yn 1997 ac roedd yn newyddiadurwr ar raglen ‘BBC Wales Today’ cyn cael ei benodi’n brif gyflwynydd rhaglen ‘Wales on Saturday’. Yn 2013, dechreuodd gyflwyno ‘Final Score’ ar BBC One. Ef yw un o brif gyflwynwyr BBC Chwaraeon. Cafodd Jason Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol yn 2014.

Image of  a man wearing glasses and a suit

James Goldston

PGDip 1991, Hon 2019

Mae James yn arlywydd Newyddion ABC yn yr Amerig. Cyn hynny, ef oedd cynhyrchydd gweithredol rhaglen materion cyfoes mwyaf poblogaidd Prydain ar y pryd, ‘Tonight with Trevor McDonald’. Yn ystod ei amser fel cynhyrchydd a chynhyrchydd gweithredol, enillodd y rhaglen wobr nodedig yr RTS tair gwaith mewn 5 mlynedd.

Kevin Maguire (PGDip 1984)

Golygydd Cyswllt yn y Daily Mirror.

Laura Trevelyan (PGDip 1991)

Gohebydd ar gyfer y BBC World Service yn yr Amerig.

Emma Catherine Crosby (PGDip 1999)

Darlledwr newyddion a newyddiadurwr sydd wedi ymddangos ar Channel 5, Sky News, ITV a Newyddion y BBC.

Claire Marshall (PGDip 1997)

Newyddiadurwr Newyddion y BBC.

Matthew Tempest (PGDip 1997)

Newyddiadurwr sydd wedi ysgrifennu ar gyfer Der Speigel ar-lein, Guardian Unlimited a phapurau’r Mirror.

Jade Callaway (BSc 2011)

Darlledwr radio.

Max Foster (BSc 1994)

Prif gyflwynydd a Gohebydd Llundain ar gyfer CNN International.

Alan Johnston (PGDip 1987)

Newyddiadurwr ar gyfer y BBC.

Siân Lloyd (BA 1979)

Cyflwynwraig teledu a chyn-feteorolegydd ITV.

Behnaz Akhgar (PGDip 2005)

Cyflwynydd y tywydd ar gyfer rhaglen y BBC ‘Wales Today’.

Ambika Anand (PGDip 2004)

Prif gyflwynydd teledu a phrif golygydd NDTV Good Times.

Matthew Barbet (BA 1994, PGDip 1999)

Cyflwynydd teledu a newyddiadurwr.

Guto Harri (PGDip 1998)

Cyn Prif Ohebydd Gwleidyddol y BBC ac yna Cyfarwyddwr Cyfathrebu ar gyfer cyn Faer Llundain, Boris Johnson. Bellach yn Gyfarwyddwr Materion Allanol, Liberty Global.

Lewis Vaughn Jones (PGDip 2005)

Gohebydd Newyddion ITN, Newyddion ITV

Adina Campbell (PGDip 2008)

Newyddiadurwr a darlledwr newyddion BBC South Today a chyflwynydd teledu.