14 Awst 2023
Dechreuodd Dr Nicholas Jones (BMus 1994, MMus 1995, PhD 1999), ei swydd yn Bennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ym mis Awst 2023, gan olynu’r Athro Ken Hamilton. Yn gynfyfyriwr triphlyg o Gaerdydd, mae Nick wedi astudio a gweithio yn y Brifysgol ers dros 30 mlynedd. Cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, mae Nick yn rhannu ei obeithion a'i flaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol Cerddoriaeth.