P'un a ydych yn dechrau CV o'r newydd neu'n rhoi sglein newydd ar hen un, mae cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yma i helpu. Cewch wybod beth mae ein harbenigwyr ym maes recriwtio ac Adnoddau Dynol yn ei argymell ar gyfer creu CV trawiadol yn y byd cystadleuol sydd ohoni.
Mae Lizzie Romain (BMid 2014) yn fydwraig mewn ysbyty mamolaeth preifat yn Llundain, ond mae hi bob amser wedi brwydro i gydbwyso ei gyrfa bydwreigiaeth gyda'i hochr greadigol. Ychydig cyn y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, ymunodd â'i gorsaf radio gymunedol leol yng Ngorllewin Llundain, a nawr yn 2022 mae'n mynd amdani ac yn pontio i yrfa lawn amser mewn darlledu.
Mae cymuned cynfyfyrwyr Caerdydd wedi cysylltu â myfyrwyr y flwyddyn gyntaf mewn neuaddau preswyl i anfon negeseuon tymhorol o gefnogaeth a dangos iddyn nhw fod eu perthynas â Phrifysgol Caerdydd […]
Gwnaeth Joanna Dougherty (BScEcon 2017) gymryd rhan yn ein cynllun Menywod yn Mentora, lle mae graddedigion benywaidd yn cael eu mentora am gyfnod byr gan gynfyfyrwyr benywaidd llwyddiannus. Mae ein mentoriaid benywaidd yn rhoi arweiniad a chymorth ac yn helpu i ysbrydoli a grymuso’r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwyr benywaidd Prifysgol Caerdydd.
Mae'n adeg wych o'r flwyddyn pan fydd y rhan fwyaf ohonom yn teimlo'n hael iawn ac yn hapus i gyfrannu at achos da. Anogwch eraill i gofleidio'r ysbryd o roi gyda rhai gweithgareddau codi arian ar thema'r Nadolig.
Mae ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn amrywio o ran ei chyrhaeddiad. O ddarganfod bioleg y clefyd a deall ffyrdd o atal canser, i chwilio am driniaethau newydd a gwell. Nod ein gwaith yw achub a gwella bywydau.
Dechreuodd Mark Woolner (BScEcon 1995) redeg yn ystod cyfnod clo cyntaf y DU ac mae'n dychwelyd i Gaerdydd bron i 30 mlynedd ar ôl graddio, i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd yn 2022. Mae'n rhannu ei gymhelliant, ei ysbrydoliaeth a'r hyn y mae'n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras.
Mae'r Athro Ian Jones (MSc 1997) yn Seiciatrydd Ymgynghorol Anrhydeddus ac Athro Seiciatreg yn yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar anhwylder deubegynol a chyfnodau o seicosis ôl-enedigol mewn menywod deubegynol. Yma mae'n egluro beth yw bod yn ddeubegynol, sut mae'n effeithio ar unigolion, a pham mae menywod yn fwy tebygol o fynd i'r ysbyty ar ôl rhoi genedigaeth nag ar unrhyw adeg arall yn eu bywydau.
Gall mentro i fod yn llawrydd fod yn frawychus, ac yn gwbl frawychus hyd yn oed. Os ydych chi'n barod i fentro ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, mae gennym ni'r canllaw hwn o awgrymiadau gan gymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.