Cyswllt Caerdydd
Cyswllt Caerdydd, Cylchgrawn Prifysgol Caerdydd gynt, yw ein cyhoeddiad blynyddol ar gyfer ein cymuned o gynfyfyrwyr, ac mae'n llawn y newyddion diweddaraf o'r Brifysgol.
Os oes gennych newyddion neu syniad am stori yr hoffech ei rhannu, ebostiwch alumni@caerdydd.ac.uk.

Cardiff Connect - Autumn 2018
The latest Cardiff Connect for alumni and friends
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cyswllt Caerdydd Hydref 2018
Pwy yw’r cynfyfyrwyr sy’n gyfrifol am y chwyldro bwyd sy'n digwydd yng Nghaerdydd? Mae ein herthygl yn edrych ar y sîn fwyd newidiol yn y brifddinas.
100 mlynedd ers yr etholiad cyntaf lle rhoddwyd yr hawl i rai menywod bleidleisio, ydy pobl ddylanwadol o Gaerdydd yn cadw gwaddol Millicent Mackenzie yn fyw?
Mewn cyfnod pan mae phrifysgolion yn destun mwy o graffu nag erioed o’r blaen, rydym yn edrych ar y rhesymau pam mae prifysgolion yn rhan mor annatod o’n bywydau bob dydd.
Mae’r cylchgrawn hefyd yn llawn dop o newyddion, digwyddiadau a darganfyddiadau ymchwil y Brifysgol.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael y newyddion diweddaraf i gynfyfyrwyr, a chadw mewn cysylltiad gyda Phrifysgol Caerdydd drwy gyflwyno eich gwybodaeth gyswllt gyfredol.