27 Hydref 2023
Gwych — rydych chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad am swydd newydd a chyffrous, ond beth nesaf!? Yn aml, bydd aros am gyfweliad yn gallu codi braw ar rywun, ond drwy baratoi’n effeithiol amdano, byddwch chi’n dawel eich meddwl wrth wybod y gallech fynd i'r afael ag ef yn llawn hyder. Cawson ni sgwrs gyda rhai o'n cyn-fyfyrwyr gwych, ac maen nhw wedi rhannu awgrymiadau da iawn ar sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf.