Ewch i’r prif gynnwys

Y cyhoedd

Mae croeso i'r cyhoedd ymweld â'n llyfrgelloedd ar y campws neu ymuno â hwy.

Gallwch ymweld â rhan fwyaf o'n llyfrgelloedd a phori drwy ein hadnoddau printiedig heb ymaelodi. Gwiriwch trefniadau mynediad i bob llyfrgell ar ein tudalen Lleoliadau ac oriau agor. Hefyd gallwch gyrchu rhai eAdnoddau trwy ein mynediad cerdded i mewn i’r gwasanaeth eAdnoddau.  Ar ben hynny, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth graffeg.

Os ydych eisiau benthyg llyfrau o'n llyfrgelloedd bydd angen i chi fod yn aelod. I weld rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau i fyfyrwyr, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y dudalen benthyg llyfrau.

Dewisiadau aelodaeth

Aelodaeth bersonol

Ymunwch â ni fel aelod personol i fenthyg llyfrau a gwneud cais am eitemau.

Codir tâl blynyddol o £10 am aelodaeth bersonol. Cewch fenthyg hyd at ddwy eitem ar unrhyw un adeg o'n casgliadau wythnos, pythefnos a phedair wythnos o hyd.

Sut mae ymuno

I ymuno fel aelod personol bydd angen i chi wneud cais am gerdyn llyfrgell. Cwblhewch ein ffurflen aelodaeth ar-lein i ymuno a defnyddio ein llyfrgelloedd. Bydd staff y llyfrgell yn cysylltu â chi pan fydd eich cerdyn yn barod i'w gasglu. Gellir gwneud unrhyw daliadau wrth gasglu eich cerdyn. Dim ond trwy daliad cerdyn y gallwch ei dalu.