Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd Cymraeg

Nod Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i raddedigion allu gweithredu’n effeithiol ym maes y Gyfraith yn y Gymru fodern.

Mae datblygiadau cyfreithiol diweddar, yn cynnwys dyfodiad datganoli i Gymru, wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y galw am gyfreithwyr dwyieithog yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. O ganlyniad, mae cyflogwyr yng Nghymru yn croesawu cyfreithwyr dwyieithog gan fod yna alw amdanynt ymhlith cleientiaid Cymraeg.

Gallwch astudio gradd gymhwyso yn y Gyfraith yn llawn drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob un o’n rhaglenni israddedig. Neu gallwch astudio rhan o’ch gradd cymhwyso drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynhelir dosbarthiadau tiwtorial ym mhob un o’r modiwlau craidd dros dair blynedd eich gradd:

Modiwlau

Blwyddyn 1

  • Sylfeini'r Gyfraith (20 neu 30 credyd)
  • Cyfraith Gyhoeddus (20 neu 30 credyd)
  • Cyfraith Contract (20 neu 30 credyd)
  • Cyfraith Trosedd (20 neu 30 credyd)

Blwyddyn 2

  • Cyfraith Camwedd (20 neu 30 credyd)
  • Datganoli yng Nghymru (10 credyd)
  • Cyfraith Tir (20 neu 30 credyd)

Blwyddyn 3

  • Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (20 neu 30 credyd)
  • Traethawd Hir (20 neu 30 credyd)
  • Cyfraith Ymddiriedolaethau (20 neu 30 credyd)

Mae cyflogwyr yng Nghymru yn croesawu cyfreithwyr dwyieithog gan fod yna alw amdanynt ymhlith cleientiaid Cymraeg.

Lowri Ceiriog Myfyrwraig yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd

Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig nifer o ysgoloriaethau i’r sawl sy’n bwriadu astudio yn Gymraeg.