Ewch i’r prif gynnwys

Cymhwysedd

Gallwch hawlio treuliau adleoli os ydych yn dechrau swydd newydd yn y Brifysgol neu os ydy'r Brifysgol yn dymuno i chi newid eich prif leoliad gwaith.

Dylai'r symud fod o bellter sylweddol. Yn gyffredinol, mae'r canllawiau'n nodi:

  • rhaid i'ch preswylfa newydd fod o fewn pellter teithio rhesymol o'ch lleoliad gwaith newydd arferol
  • ni ddylai'ch hen breswylfa fod o fewn pellter teithio rhesymol o'ch lleoliad gwaith newydd arferol.

Gallwch hawlio treuliau symud os ydych yn rhentu neu'n prynu tŷ. Ond os ydych chi wedi symud ddwywaith, (e.e. unwaith i lety wedi'i rhentu ac yna i'r cartref rydych wedi ei brynu), nid oes modd i chi fel arfer i hawlio treuliau symud mwy nag unwaith.

Fodd bynnag, os ydych chi wedi amlygu eich bod yn bwriadu prynu tŷ ar ôI cyfnod rhentu byr, gall fod yn bosibl i chi hawlio treuliau os oes gennych dri dyfynbris ar gyfer bob symudiad ac os nad yw'r cyfanswm sy'n ddyledus yn uwch na'r uchafswm y gellid ei hawlio. Dylech fod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau amser sy'n rhan o'r broses hon.

Mae costau adleoli ar gyfer partneriaid, plant ac aelodau eraill o'r teulu sy'n rhan o'ch cartref, yn rhan o'r cyfanswm y gallwch ei hawlio.

Os ydych chi a'ch partner yn adleoli i weithio ym Mhrifysgol Caerdydd, dim ond un lwfans adleoli sydd ar gael.