Astudio dramor
Rydyn ni’n cynnig y cyfle i wneud cais i dreulio semester o astudio dramor yn achos y rhan fwyaf o’n rhaglenni gradd drwy law ein partneriaethau rhyngwladol.
Mae astudio dramor yn rhoi’r cyfle ichi ystyried safbwyntiau newydd ar eich astudiaethau a'r byd ehangach. Byddwch chi’n datblygu ystod ddyfnach o sgiliau trosglwyddadwy megis y gallu i ymaddasu, rheoli amser, datrys problemau a chyfathrebu rhyngddiwylliannol.
Efallai y cewch y cyfle i loywi eich sgiliau iaith, neu hyd yn oed ddysgu iaith dramor newydd. Gan gwrdd â phobl o gefndiroedd amrywiol, byddwch chi’n creu cyfeillgarwch a rhwydweithiau a all bara am oes gyfan.
Dewis eang o gyrchfannau
Mae ein sefydliadau partner yn rhychwantu cyfandiroedd. Bydd y cyrchfannau'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn, a rhestrir enghreifftiau diweddar isod.
Ewrop
- Coleg y Brifysgol Dulyn (Iwerddon)
- Prifysgol Bremen (Yr Almaen)
- Prifysgol Regensburg (Yr Almaen)
- Prifysgol Oslo (Norwy)
- Prifysgol Siarl (Prâg)
Awstralasia
- Prifysgol Macquarie (Sydney, Awstralia)
Gogledd America
- Prifysgol y Frenhines (Kingston, Canada)
- Prifysgol British Columbia (Okanagan, Canada)
- Prifysgol Loyola Marymount (Los Angeles, UDA)
- Prifysgol Florida (Gainsville, UDA)
- Prifysgol Talaith San Francisco (California, UDA)
- Prifysgol Talaith Efrog Newydd (New Paltz, UDA)
- Coleg William a Mary (Virginia, UDA)
- Prifysgol Gorllewin Virginia (Morgantown, UDA)
Pryd galla i astudio dramor?
Byddwch chi’n astudio dramor yn semester y gwanwyn yn yr ail flwyddyn.
Cyllid
Mae’r cyllid yn amrywio yn ôl lle rydych chi'n dewis astudio. Bydd myfyrwyr fel arfer yn derbyn cyllid i astudio dramor gan un o nifer o ffrydiau ariannu e.e. Taith (Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru), Cynllun Turing (rhaglen fyd-eang Llywodraeth y DU i astudio/gweithio dramor) neu fwrsariaeth gan Brifysgol Caerdydd.
Bydd y cyllid a roddir yn cynorthwyo o ran y costau byw cyffredinol a bydd hyn yn amrywio gan ddibynnu ar wlad y gyrchfan.
Iaith yr addysgu a’r asesu
Bydd y modiwlau’n cael eu haddysgu a’u hasesu yn Saesneg. Bydd y canlyniadau yn eich sefydliad cynnal yn cael eu trosi gan ddefnyddio tablau Trosi Graddau'r Ysgol. Bydd y rhain yn cyfrif tuag at 50% o'ch gradd yn ystod blwyddyn 2.
Cysylltu â ni
Cydlynydd cyfnewid Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
The Global Opportunity Centre provides a dedicated resource and source of expertise for all of the international opportunities available at Cardiff University.