Ewch i’r prif gynnwys

Ein myfyrwyr

Mae ein rhaglen MA yn denu amrywiaeth eang o fyfyrwyr o'r DU ac ar draws y byd sy'n ffurfio grŵp cyfoedion deinamig a chydweithredol.

Rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad academaidd a bugeiliol gorau posibl pan fyddwch yn astudio gyda ni, ac mae ein diddordeb yn eich llwyddiant yn parhau ar ôl i chi adael.

Yn ystod y cwrs eleni rwyf wedi cael cymaint o gyfleoedd amrywiol […] Mae hyblygrwydd yr MA wedi fy ngalluogi i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb i mi, megis sosioieithyddiaeth, diwylliant a hanes Cymru a chyfieithu, sydd yn y pendraw wedi arwain at swydd amser llawn fel cyfieithydd i Amgueddfa Cymru ar ddiwedd y cwrs.

Ellen Carter, MA Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd (2017)

Profiad Anna

Pa fath o brofiad allwch chi ddisgwyl fel myfyriwr MA gyda ni? Mae Anna Powys wedi mwynhau hyblygrwydd y rhaglen a’r gallu i weithio’n agos gyda staff yr Ysgol.

Rhyngwladol

Rydym yn croesawu myfyrwyr rhyngwladol sydd am astudio agweddau ar y Gymraeg ac ieithoedd Celtaidd eraill, diwylliant a llenyddiaeth. Byddwch yn gallu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu/a’r Saesneg. Os ydych am ddysgu’r Gymraeg pan fyddwch yn astudio gyda ni, bydd hyfforddiant ar gael a byddwch yn gymwys i gymryd rhan yn ein rhaglen Cymraeg i Bawb.