Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiadau blaenorol

Man standing on a stage in front of a podium
Syr Tom Devine yn ystod Darlith Flynyddol 2016 yn Adeilad Pierhead.

Rydyn ni wedi croesawu nifer o wleidyddion, ysgolheigion ac esbonwyr pwysig.

Dyma ychydig o’n hachlysuron blaenorol.

Adam Price

Adam Price: Ail-wneud Democratiaeth Gymreig

CalendarDydd Iau 12 Hydref 2023, 18:00

Dafydd Wigley

Mewn Sgwrs gyda Dafydd Wigley

CalendarDydd Mawrth 3 Hydref 2023, 18:00

Aneurin Bevan

Dyma Fy Ngwir: Lansiad llyfr yn y Senedd

CalendarDydd Iau 6 Gorffennaf 2023, 18:00

The Island of Ireland after Five Decades of EU Membership

Ynys Iwerddon ar ôl 50 mlynedd o aelodaeth o’r UE

CalendarDydd Iau 25 Mai 2023, 17:30

Radicals and Realists: Political Parties in Ireland Book Cover

Radicals and Realists

CalendarDydd Mawrth 16 Mai 2023, 17:00

The event title, 'What is happening in Scotland and Wales?', and the names of the two authors, Gerry Hassan and Will Hayward

Beth sy'n digwydd yn yr Alban a Chymru?

CalendarDydd Mercher 7 Rhagfyr 2022, 18:00

Pound Sterling notes and coins

Rhagolwg Cyllideb Cymru 2022: Brecwast Briffio

CalendarDydd Llun 5 Rhagfyr 2022, 09:00

The Welsh Criminal Justice System by Robert Jones and Richard Wyn Jones

System Cyfiawnder Troseddol Cymru: Ar y Rhwyg

CalendarDydd Mercher 26 Hydref 2022, 17:30

Bloody Sunday webinar flyer

50 Mlynedd ers Sul y Gwaed: Cais am y Gwir a Chyfiawnder

CalendarDydd Mercher 23 Chwefror 2022, 15:00

Cathays Park

Rhagolwg Cyllideb Cymru 2021: Digwyddiad Briffio

CalendarDydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021, 10:00

Brigid Laffan

Darlith Flynyddol: Brexit ac Ynys Iwerddon

CalendarDydd Iau 21 Hydref 2021, 17:00

Event image placeholder

Sgwrs Ddinesig Genedlaethol am ein Dyfodol Cyfansoddiadol

CalendarDydd Llun 5 Gorffennaf 2021, 10:00

welsh-scottish-flags

Sut y pleidleisiodd yr Alban a Chymru

CalendarDydd Mercher 9 Mehefin 2021, 09:00

Digwyddiadau yn 2018

Y Swistir ac Undeb Ewrop: Ystyriaethau i’r Deyrnas Gyfunol

Dyddiad: 16eg Hydref 2018
Lle: Ystafell Kathleen Ede, Neuadd Aberdâr, Prifysgol Caerdydd

Roedd yn dda gyda ni gynnal darlith a sesiwn holi ac ateb gydag Alexandre Fasel, Llysgennad y Swistir yn y deyrnas hon.

Gan fod y trafodaethau am ymadawiad y Deyrnas Gyfunol ag Undeb Ewrop wedi cyrraedd cyfnod allweddol bellach, mae profiad y Swistir yn wlad sy’n ymwneud â’r undeb o ddiddordeb sylweddol i gynulleidfaoedd yng Nghymru a’r deyrnas gyfan.

Yn rhan o’i ymweliad â Chymru, bydd y Llysgennad yn amlinellu natur perthynas y Swistir ag Undeb Ewrop a gwledydd EFTA, yn ogystal ag ystyried natur perthynas y deyrnas hon â’r undeb yn y dyfodol.

Mae Mr Fasel yn swydd Llysgennad y Swistir yma ers mis Medi 2017. Mae ganddo brofiad helaeth o’r lefel ryngwladol gan gynnwys cynrychioli’r Swistir yn Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig, Cyngor y Hawliau Dynol a sefydliadau rhyngwladol eraill.

Ar ben hynny, mae wedi gweithio mewn sawl rôl yn Adran Ffederal Materion Tramor y Swistir, gan gynnwys Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol. Mae Mr Fasel yn gyfreithiwr hefyd. Mae wedi astudio ym Mhrifysgol Fribourg a Phrifysgol Rhydychen.

Sgwrs gyda Ron Davies

Dyddiad: 5ed Gorffennaf 2018
Lle: Adeilad Pierhead, Cynulliad Cenedlaethol

Bu Ron Davies yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, yn Aelod Seneddol ac yn Aelod o’r Cynulliad, ac mae cydnabyddiaeth eang mai dylunydd datganoli yw e.

Ron Davies lywiodd Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 trwy Senedd San Steffan, gan roi canlyniad refferendwm 1997 ar waith a sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

20 mlynedd ar ôl Deddf Llywodraeth Cymru ar ei ffurf gyntaf, mynegodd Ron ei farn am orffennol, presennol a dyfodol datganoli democrataidd yng Nghymru.

Nye Bevan a sefydlu'r GIG

Dyddiad: 22ain Mehefin 2018
Lle: Adeilad Pierhead, Cynulliad Cenedlaethol

Mae'r GIG yn parhau i fod yn sefydliad sy’n cael ei drysori yn y Deyrnas Gyfunol, 70 mlynedd ar ôl ei eni. Mae'n parhau i gael ei ystyried yn un o’r campau pwysicaf yn hanes gwleidyddol Prydain.

Mae Aneurin Bevan wedi cyflawni etifeddiaeth sylweddol oherwydd ei rôl yn Weinidog Iechyd a Thai oedd yn gyfrifol am oruchwylio a chreu’r GIG. Ers hynny, mae wedi’i ystyried yn gawr yng ngwleidyddiaeth Cymru a Phrydain fel ei gilydd.

Yn y ddarlith arbennig hon i nodi pen-blwydd y GIG yn 70, bydd bywgraffydd Bevan, Nick Thomas-Symonds AS, yn trafod rôl Bevan wrth greu’r GIG a phwysigrwydd Bevan i'r sefydliad ei hun.

Diwedd Gwleidyddiaeth Bleidiol ym Mhrydain?

Dyddiad: 6ed Mehefin 2018
Lle: Siambr y Cyngor, Prif Adeilad

Ynghyd â Felicity Evans o’r BBC, cyflwynodd yr Athro Roger Scully ei lyfr newydd, 'The End of British Party Politics?'.

Clywodd y gynulleidfa fawr sut mae dewisiadau etholiadol ledled Prydain wedi dod yn fwyfwy gwahaniaethol yn ôl ffiniau cenedlaethol dros lawer o'r hanner canrif ddiwethaf. Yn 2017, yn yr ail etholiad cyffredinol yn olynol, daeth pedair plaid wahanol yn gyntaf ym mhedair gwlad y deyrnas.

Fe amlinellodd y gwyddonydd gwleidyddol enwog sut mae pleidleiswyr y deyrnas yn wynebu cyfresi gwahanol a hynod ddatgysylltiedig o ddewisiadau gwleidyddol bellach, a beth fydd goblygiadau hynny i ddyfodol Cymru a'r deyrnas gyfan.

Rhagor o wybodaeth am y llyfr

Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau

Dyddiad: 5ed Mehefin 2018

Ynghyd â Julie Morgan AC, cyflwynodd y Dr Rob Jones a’r Athro Richard Wyn Jones ‘Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau.’

Mae'r adroddiad arloesol hwn yn dod ag ystod o ddata ynghyd am garcharu yng Nghymru. Dyma’r tro cyntaf i un casgliad o’r fath gael ei gyhoeddi.

Mae'n trin a thrafod pwy sydd wedi’i garcharu yng Nghymru, ac ym mha le. Mae hefyd yn rhoi data am ddedfrydu, diogelwch mewn carchardai, a sut mae grwpiau fel menywod a siaradwyr Cymraeg yn rhyngweithio â system y carchardai.

Bydd y ffeil ffeithiau yn sylfaen dystiolaeth hanfodol i lunwyr polisïau yng nghyd-destun archwiliad Comisiwn Cyfiawnder Cymru a’r ymchwiliad pwysig gan Bwyllgor Materion Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin.

Gwylio fideo o’r achlysur

Elmar Brok ASE – Brexit a Senedd Ewrop

Dyddiad: 26ain Ebrill 2018
Lle: Adeilad Pierhead, Cynulliad Cenedlaethol

Croesawodd y Dr Rachel Minto Elmar Brok ASE i’r Ganolfan am ddarlith a sesiwn holi ac ateb am adael Undeb Ewrop yn ystod amser cinio.

Gwylio fideo o’r ddarlith

Y Comisiwn Annibynnol dros Refferenda: Pwy, beth, pam a sut

Dyddiad: Ebrill 2018
Lle: Senedd

Ym mis Hydref lansiodd Uned y Cyfansoddiad Gomisiwn Annibynnol ar Refferenda, i adolygu rôl refferenda yn nemocratiaeth Prydain ac ystyried sut y gellid gwella eu rheolau a'u harferion.

Mae’r comisiwn yn cwrdd yn fisol, ac yn bwriadu cyflwyno ei adroddiad yn haf 2018. Yn y seminar hwn, bydd y cadeirydd ac aelodau'r comisiwn yn trafod eu tasg, sut maent yn mynd ati a’r mewnbwn y mae arnynt ei angen gan arbenigwyr eraill a’r cyhoedd i ofalu bod cymaint o dystiolaeth berthnasol ar gael ag y bo modd. Byddant yn cyfeirio’n benodol at brofiad diweddar Cymru o refferenda.

Yr Athro Roger Awan-Scully lywiodd yr achlysur.

Siaradwyr

  • Syr Joe Pilling, Cadeirydd y Comisiwn
  • Y Dr Alan Renwick, Cyfarwyddwr Ymchwil y Comisiwn
  • Yr Athro Laura McAllister, Athro Polisïau Cyhoeddus Canolfan Llywodraethiant Cymru

Brexit: Safbwynt Iwerddon

Dyddiad: 21ain Chwefror 2018
Lle: Adeilad Pierhead, Cynulliad Cenedlaethol

Darlith gan Daithi O’Ceallaigh, cyn-Lysgennad Iwerddon i’r Frenhines a Chyfarwyddwr Sefydliad Materion Rhyngwladol ac Ewrop yn Nulyn.

Gwylio fideo o’r ddarlith

Achlysuron pwysig rhwng 2012 a 2016

Teitl

Siaradwr, cadeirydd neu gyflwynydd

Dyddiad

Seminar Awdurdodaeth ar Waith

Amrywiol

Hydref 2016

Cenedl Aflonydd: Yr Alban 1999-2016 a’r tu hwnt (Darlith Flynyddol 2016)

Yr Athro Syr Tom Devine

Hydref 2016

Gweinyddu Addysg

Leighton Andrews AC

Hydref 2014

Cyflwyno’r Cylch Seneddol Trawsbleidiol dros Ddiwygio a Datganoli yn y Deyrnas Gyfunol

Cadeirydd: Arglwydd Hennessy Nympsfield

Gorffennaf 2014

Beth fydd effaith y refferendwm am annibyniaeth yr Alban ar Gymru?

Cadeirydd: David Melding AC. Panel: Lee Waters (Cyfarwyddwr Sefydliad Materion Cymru), Valerie Livingstone (Newsdirect Wales) ac Adam Price (cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr).

Gorffennaf 2014

Achlysur cyflwyno llyfr David Marquand, Mammon's Kingdom

Wedi’i gynnal gan yr Uned dros Arloesi ac Ymgysylltu ar y cyd â Chanolfan Llywodraethiant Cymru a Sefydliad Materion Cymru

Mehefin 2014

Achlysur cyflwyno llyfr Richard Wyn Jones, The Fascist Party in Wales? Plaid Cymru, Welsh Nationalism and the Accusation of Fascism.

Cadeirydd: Helgard Krause (UWP)

Cylch trafod: Adam Price a Richard Wyn Jones

4ydd Mehefin 2014

Darlith am ymgysylltu â gwleidyddiaeth a gwaith gwirfoddol yn yr 21ain ganrif

John Bercow AS, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin. Cadeirydd: Yr Athro Richard Wyn Jones Noddwr: Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Y Fonesig Rosemary Butler AC.

5ed Mehefin 2014

Tuag at annibyniaeth yr Alban? Gwerthuso gobeithion a goblygiadau refferendwm yr Alban

Y Dr Nicola McEwen, Prifysgol Caeredin. Noddwyd gan David Melding AC

14eg Mai 2014

Sgwrs gyda’r...

Gwir Anrh. yr Arglwydd Heseltine CH

Mai 2014

Darlith Flynyddol 2014 Canolfan Llywodraethiant Cymru

Nicola Sturgeon ASA, Dirprwy Brif Weinidog yr Alban a Dirprwy Arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban. Noddwyd gan y Dirprwy Lywydd, David Melding AC

Mawrth 2014

Sgwrs gyda’r...

Athro Linda Colley, Prifysgol Princeton

Gwylio fideo o’r ddarlith.

Mawrth 2014

Camgymeriad anferth? Y ddadl yn erbyn archgarchar yng Nghymru

Ar y cyd â Chynghrair Howard dros Ddiwygio Penydiol. Noddwyd gan y Dirprwy Lywydd, David Melding AC

Chwefror 2014

Arferion cyfansoddiadol a’r undeb cyfnewidiol

Yr Athro David Farrell, Coleg Prifysgol Dulyn. Noddwyd gan y Dirprwy Lywydd, David Melding AC Cynhaliwyd gan brosiect UK’s Changing Union

Chwefror 2014

Darlith am yr Alban

Yr Athro James Mitchell, Prifysgol Caeredin) a Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol

Rhagfyr 2013

Araith arweinydd

Kirsty Williams, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Medi 2013

Darlith

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, y Gwir Anrh. David Jones AS

Mehefin 2013

Darlith Flynyddol 2013 Canolfan Llywodraethiant Cymru

Syr David Lloyd Jones

Ebrill 2013

Araith arweinydd

Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru

Mawrth 2013

Araith arweinydd

Andrew RT Davies, Arweinydd Ceidwadwyr Cymru

Chwefror 2013

Sgwrs gyda’r...

Gwir Anrh. Peter Hain AS. Noddwyd gan y Dirprwy Lywydd, David Melding AC

Gwylio fideo o’r ddarlith.

Rhagfyr 2012

Darlith Flynyddol 2012 Canolfan Llywodraethiant Cymru

Dirprwy Brif Weinidog San Steffan, y Gwir Anrh. Nick Clegg AS

Gwylio fideo o’r ddarlith.

14eg Mehefin 2012