Ewch i’r prif gynnwys

Rhagolwg Cyllideb Cymru 2022: Brecwast Briffio

Dydd Llun, 5 Rhagfyr 2022
Calendar 09:00-10:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Pound Sterling notes and coins

Mewn cyfnod o ansicrwydd di-gynsail, mae rhagolygon economaidd a chyllidol Cymru wedi cymylu’n sylweddol. Yn ogystal â’r wasgfa ar gyllidebau aelwydydd a safonau byw, mae chwyddiant uwch wedi erydu gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru mewn termau real, gyda’r posibilrwydd o doriadau pellach ar y gorwel. Wrth i drywydd polisi cyllidol Llywodraeth y DG ddod yn gliriach, mae Llywodraeth Cymru yn wynebu penderfyniadau anodd ar lefelau gwariant cyhoeddus a threthi datganoledig.

Cyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023−24, ymunwch â thîm Dadansoddi Cyllid Cymru (DCC) ar gyfer trafodaeth o adroddiad newydd fydd yn dadlennu’r rhagolwg ar gyfer Cyllideb Cymru a’r heriau sydd o’n blaenau.

Bydd tîm DCC yn trafod:

• Goblygiadau Cynllun Cyllidol Tymor-Canolig Llywodraeth y DG i Gymru

• Yr argyfwng costau byw a mesurau’r llywodraeth

• Effaith chwyddiant ar wasanaethau cyhoeddus, pwysau ar gyllidebau llywodraeth leol, a bil cyflogau y sector cyhoeddus

• Opsiynau a’r cyfaddawdau posib ar gyfer dyraniadau gwariant Llywodraeth Cymru a pholisi trethi datganoledig

Ymunwch â ni yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, lle bydd brecwast ysgafn ar gael.

Adeilad y Pierhead
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF11 7JZ

Rhannwch y digwyddiad hwn