Ewch i’r prif gynnwys

50 Mlynedd ers Sul y Gwaed: Cais am y Gwir a Chyfiawnder

Dydd Mercher, 23 Chwefror 2022
Calendar 15:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bloody Sunday webinar flyer

Hanner can mlynedd yn ôl y mis hwn, gwnaeth awyrfilwyr saethu 13 o orymdeithwyr hawliau sifil yn farw yng Ngogledd Iwerddon. Y diwrnod hwnnw yw un o ddiwrnodau tywyllaf y Fyddin Brydeinig, a chafodd ei alw’n ‘Sul y Gwaed’. Nid oes yr un milwr wedi’i erlyn. Gwnaeth y ffaith honno ychwanegu at ffyrnigrwydd ymgyrch arfog Byddin Weriniaethol Iwerddon dros y degawdau nesaf a pheri oedi o fwy na 20 mlynedd i’r siawns o heddwch. Bydd ymchwilwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ac Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn cyfweld yn gyhoeddus â’r Athro Niall Ó Dochartaigh, Athro Gwyddor Wleidyddol ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon yn Galway, a Dr Charlotte Barcat, Darlithydd mewn Hanes Prydain ym Mhrifysgol Nantes. Yn dilyn y cyfweliad fydd sesiwn holi ac ateb. Y nod yw dadansoddi beth ddigwyddodd a pham ac asesu effaith Sul y Gwaed heddiw.

Rhannwch y digwyddiad hwn