Ewch i’r prif gynnwys

Dyma Fy Ngwir: Lansiad llyfr yn y Senedd

Dydd Iau, 6 Gorffennaf 2023
Calendar 18:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Aneurin Bevan

Mewn darllediad byw o’r Senedd, bydd Nye Davies yn amlinellu ‘Bevan yn ei eiriau ei hun’, gan ddisgrifio taith wleidyddol sy’n aml yn cael ei dadansoddi’n rhy arwynebol.

Wedi’i gyhoeddi’n gynharach eleni gan Wasg Prifysgol Cymru, 'Dyma Fy Ngwir' yw casgliad golygedig Nye Davies o erthyglau pwysicaf Aneurin Bevan ar gyfer cylchgrawn Tribune, o’i sefydlu ym 1937 hyd at farwolaeth Bevan ym 1960. Gan ddechrau gyda chyflwyniad sy’n disgrifio gyrfa ysgrifennu Bevan ac yn pwysleisio ei etifeddiaeth, mae’r casgliad yn arddangos ei ddadansoddiad o wrthdaro dosbarth, cyfalafiaeth, democratiaeth, y byd a sosialaeth ddemocrataidd.

Mae Mark Drakeford, AS Gorllewin Caerdydd a Phrif Weinidog Cymru, yn noddi’r digwyddiad lansio yn yr Oriel (caffi) yn Senedd Cymru ar nos Iau 6 Gorffennaf, 2023 – diwrnod ar ôl pen-blwydd y GIG.

Croeso cynnes i bawb!

Oriel y Senedd
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Rhannwch y digwyddiad hwn