Ewch i’r prif gynnwys

Sut y pleidleisiodd yr Alban a Chymru

Dydd Mercher, 9 Mehefin 2021
Calendar 09:00-10:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

welsh-scottish-flags

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caeredin yn falch o gyflwyno 'Sut y pleidleisiodd yr Alban a Chymru: WES a SES 2021'. Bydd y weminar gyhoeddus hon yn amlinellu canfyddiadau cychwynnol o Astudiaethau Etholiad Cymru a’r Alban 2021, a gynhaliwyd gan dimau sy’n gweithio ar draws chwe phrifysgol. Rhain yw’r arolygon mwyaf helaeth o etholiadau datganoledig yn y DG hyd yma.

Ymunwch â ni i wylio'r cyflwyniadau ac i ddarganfod tystiolaeth newydd sy’n esbonio sut y pleidleisiodd pobl yng Nghymru a'r Alban a pham, o’r ymateb i ymgyrchoedd ac arweinwyr y pleidiau, i gwestiynau ar hunaniaeth genedlaethol a gwerthoedd gwleidyddol.

Panelwyr: Yr Athro Ailsa Henderson (Prifysgol Caeredin), Yr Athro Rob Johns (Prifysgol Essex), Dr Fraser McMillan (Prifysgol Glasgow), Yr Athro Richard Wyn Jones, a Dr Jac Larner (Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd).

Rhannwch y digwyddiad hwn