Llety grŵp
Mae llety ar gael yn ystod misoedd yr haf mewn nifer o leoliadau, rhan fwyaf o fewn pellter cerdded i ganol y ddinas. Mae yna amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys hunanarlwyo a gwely a brecwast.
Mae llety haf ar gael rhwng Gorffennaf a Medi.
I wirio argaeledd, cysylltwch â'r Swyddfa Cynadleddau lle bydd aelod o'r tîm yn gallu'ch cynorthwyo.
Swyddfa Cynhadledd
Cyfleusterau
Mae cyfleusterau yn cynnwys:
- fflatiau o niferoedd amrywiol gyda phob fflat yn cynnwys cegi/ardal fwyta
- llestri, cyllyll a ffyrc, potiau a sosbenni a haearn smwddio
- mae pob ystafell yn ddeiliadaeth sengl ac yn cynnwys tywelion a dillad gwely
- cyfleusterau te a choffi wedi’u cynnwys
- parcio am ddim (yn amodol ar argaeledd)
- golchdy
- mae haearnau smwddio, addaswyr a sychwyr gwallt o’r dderbynfa.
Yn ddibynnol ar eich anghenion, byddwn yn eich cynghori ar ba breswyl y Brifysgol fydd mwyaf addas ar gyfer eich grŵp.