Ewch i’r prif gynnwys

Rhoddion er Cof

A flowering tree in front of Main Building

Rydym ni eisiau dathlu pob perthynas unigryw â Chaerdydd, ac mae gwahanol feysydd o’n gwaith y gallwch eu cefnogi er cof am ffrind neu aelod o’r teulu.

Drwy ddewis cofio anwylyd drwy roi rhodd i Brifysgol Caerdydd, byddwch yn helpu i achub, newid, a chyfoethogi bywydau yng Nghymru a thu hwnt.

Galluogi gwaith ymchwil arloesol

Cefnogi gwaith sy’n arwain y byd mewn ymchwil canser, niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl neu imiwnedd a llid. Mae ymchwilwyr Caerdydd yn gweithio’n ddiflino i ganfod ffyrdd newydd i wneud diagnosis, trin a hyd yn oed atal rhai o gyflyrau mwyaf difrifol y byd.

Cefnogi myfyriwr presennol

Fe allwch chi helpu myfyrwyr yng Nghaerdydd sy’n wynebu caledi ariannol, cefnogi myfyrwyr dawnus drwy’r wobr Dathlu Bywydau, neu ddarparu ysgoloriaethau i wella cyflogadwyedd.

Lle yn ein gardd goffa

Gallwch gofio’ch anwyliaid drwy ychwanegu eu henw at y wal yn ein gardd goffa. Bydd derbyniad Dathlu Bywydau yn digwydd bob blwyddyn yn yr ardd, ac mae croeso i ffrindiau a theulu ymweld ar unrhyw adeg.

Gofyn am roddion yn lle blodau angladd

Os hoffech chi drefnu casgliad angladd yn lle blodau a rhoi’r arian i gefnogi gwaith Caerdydd, gallwn ni eich helpu chi i wneud hyn mor hawdd â phosibl.

Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr

Email
donate@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6473