Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a phryfed
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
- Ar gael yn Gymraeg yn unig
Gweithgareddau rhyngweithiol sy'n canolbwyntio ar bryfed a heriau yn sgîl newidiadau byd-eang.
Mewn cydweithrediad â'r ysgol, gellir creu gweithgaredd ar y cyd i roi gwybod i’r myfyrwyr am bryfed a'u cyfraniad at heriau yn sgîl newidiadau byd-eang. Enghraifft o'r mathau o weithgareddau y gellir eu darparu yw:
- sesiynau holi ac ateb ar 'fod yn wyddonydd'
- dadleuon ar newid yn yr hinsawdd
- gweithdy i greu dogfen friffio i Aelodau'r Senedd ar berthnasedd CoP26 i Gymru
- dylunio pryfyn (sesiwn ragarweiniol, a bydd gweithdai cymorth yn yr ysgolion yn dilyn hyn).
Ynglŷn â'r trefnydd
Hefin Jones sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn jonesth@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Cysylltwch â mi yn uniongyrchol - Hefin Jones
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.